Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

60 mil o flodfresych Cymraeg eu hiaith bob wythnos!

Mae cwmni cynhyrchu bwyd, Really Welsh, wedi llunio polisi iaith sy’n golygu eu bod yn pecynnu eu bwyd yn ddwyieithog.
Dydd Llun 27 Hydref 2008
60 mil o flodfresych Cymraeg eu hiaith bob wythnos!

Mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae Really Welsh am gynnwys logo Iaith Gwaith (y swigen siarad oren sy’n dynodi gwasanaeth Cymraeg) ar eu pecynnu blodfresych. Mae’r cwmni’n cynhyrchu 60,000 o flodfresych yn wythnosol ac yn eu cyflenwi i fanwerthwyr ac archfarchnadoedd ar draws Prydain.

Dywedodd Rhiannon Williams o’r cwmni Really Welsh:

Mae hunaniaeth Gymreig yn ganolog i’n gweledigaeth ni fel cwmni, a rhan annatod o’r hunaniaeth honno yw’r iaith Gymraeg. Mae ymchwil i’r farchnad yn profi bod brandio Cymreig a Chymraeg yn ychwanegu at ansawdd y cynnyrch. Mae pobl yn ymddiried mewn bwyd o Gymru, ac mae pecynnu dwyieithog yn dweud yn syth wrth y cwsmer fod yma gynnyrch o safon uchel. Ein nod yw cynnwys logo Iaith Gwaith ar ein holl gynnyrch yn y dyfodol.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

Rwy’n arbennig o falch fod y Bwrdd wedi cydweithio gyda Really Welsh ar ddatblygu’r polisi hwn. Mae mwy a mwy o bobl yn gweld gwerth brandio dwyieithog, ac mae’r ffordd mae Really Welsh yn cyflawni hyn yn rhagorol, ac yn esiampl wych i gwmnïau eraill.

Ychwanegodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

Rwy'n falch iawn o weld y bartneriaeth rhwng Really Welsh a Bwrdd yr Iaith yn dwyn ffrwyth. Mae'n galonogol fod fwy o gwmniau yn gweld mateision defnyddio'r Gymraeg yn eu marchnata ac wrth gynnig gwasanaethau.

27 Hydref 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gymraeg

Tagiau

Y Gymraeg 27 Hydref 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i