Mae’r ymweliad yn cyd-daro â’r Flwyddyn Drafod Rhyng-ddiwylliannol ac â neges Amlieithrwydd ddiweddar y Comisiwn Ewropeaidd. Y mae hefyd yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach eleni fod y Gymraeg bellach wedi ennill statws swyddogol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Cyfarfu’r Comisiynydd hefyd â’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, y Gweinidog Addysg, Jane Hutt a Chadeirydd a swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, i ddysgu mwy am Gymru, a sut mae’n hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg a dysgu ieithoedd tramor.
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:
Rydw i’n falch iawn bod y Comisiynydd yn ymweld â Chymru i edrych ar sut rydym yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn flaengar. Â hithau’n Flwyddyn Drafod Rhyng-ddiwylliannol Ewrop, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n edrych ar iaith fel rhywbeth sy’n ein dwyn at ein gilydd a gwella dealltwriaeth. Mae ymweliad y Comisiynydd yn amserol, yn dilyn y llwyddiant a gafodd naw cyfieithydd ar yr pryd yn ddiweddar ym mhrofion cyfieithu'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y Gymraeg bellach yn cael ei defnyddio yng Nghyngor y Gweinidogion am y tro cyntaf. Rydw i’n hyderus y bydd ymweliad y Comisiynydd yn cryfhau dealltwriaeth y Comisiwn o statws ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol o fewn yr UE.
Meddai Leonard Orban, y Comisiynydd Amlieithrwydd:
Heddiw, y mae dysgu ieithoedd tramor bwysicach nag erioed am resymau economaidd a chymdeithasol. Mae’n agor meddyliau pobol i ddiwylliannau tramor, creu gwell dealltwriaeth rhwng diwylliannau a chydlyniad cymdeithasol, a hefyd yn rhoi sgiliau i bobl i gael swyddi o ansawdd gwell, ac y mae’r cyfan yn gysylltiedig â dysgu a defnyddio ieithoedd eraill. Yn ystod fy ymweliad rydw i wedi ceisio pwysleisio pwysigrwydd y neges hon, yn enwedig yn nhermau datblygu cysylltiadau rhwng cymunedau, a dwi’n falch fy mod i wedi cael ymateb positif, yn enwedig oddi wrth y bobol ifanc dwyieithog dwi wedi cwrdd â nhw yma yng Nghymru.
Ychwanegodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith:
Roedd hi’n fraint croesawu Comisiynydd Orban i’r Bwrdd i drafod datblygiadau diweddar ym maes cynllunio ieithyddol yng Nghymru. Roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod y datblygiadau diweddar o ran Technoleg Gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â rôl y Bwrdd yn y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amlieithrwydd.
17 Hydref 2008











