Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Un o bob deg o bobl yn cyfaddef eu bod yn parcio’n anghyfreithlon mewn mannau parcio i bobl anabl

Mae arolwg newydd yn datgelu bod un o bob deg o bobl yn cyfaddef eu bod yn parcio’n anghyfreithlon, mewn mannau sydd wedi’u neilltuo i bobl anabl â Bathodyn Glas.
Dydd Gwener 24 Awst 2012

Y troseddwyr gwaethaf, yn ôl yr arolwg hwn, oedd pobl rhwng 45-55 oed; ac o blith y grŵp hwn cyfaddefodd un o bob chwech eu bod yn parcio yn y mannau neilltuedig hyn ‘yn aml’.

Daeth i’r amlwg fod system y ‘Bathodyn Glas’ yn cael ei chamddefnyddio, a hynny  mewn arolwg o 1,009 o bobl a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru. Cafodd yr arolwg ei gynnal fel rhan o ymgyrch i annog pobl i ddangos mwy o barch at hawliau parcio pobl anabl.

Gydag wythnos yn unig i fynd cyn i’r Gemau Paralympaidd ddechrau, mae’r fenter hon wedi derbyn cefnogaeth yr athletwraig Baralympaidd fyd-enwog, sef y Farwnes Tanni Grey Thomson, sy’n ddeiliad Bathodyn Glas ei hun.

Mae’r fenter yn dilyn cyflwyno Bathodynnau Glas ar eu newydd wedd ar gyfer y bobl hynny sydd â’r hawl i ddefnyddio mannau parcio neilltuedig cynllun y Bathodyn Glas. Mae’r bathodynnau newydd yn cynnwys nodweddion diogelwch ychwanegol sy’n helpu’r awdurdodau i adnabod bathodynnau ffug ac i atal bathodynnau rhag cael eu camddefnyddio.

Mae’r bathodynnau newydd ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru, ond nid yn Lloegr a’r Alban.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bwriad i fod yn llawdrwm ar y troseddwyr hynny sy’n parcio’n anghyfreithlon, sef y rheini a elwir yn ‘gwylliaid y gofod’: y rhai hynny sydd naill ai wedi parcio mewn man neilltuedig heb Fathodyn Glas neu sy’n camddefnyddio cynllun y Bathodyn Glas trwy dwyll.

Mae camddefnyddio system barcio’r Bathodyn Glas yn atal defnyddwyr cyfreithlon rhag parcio yn y mannau neilltuedig gan achosi cryn drafferth neu boen corfforol i’r bobl anabl hynny sy’n cael eu gorfodi i barcio ymhellach i ffwrdd o’r siopau ac o gyfleusterau eraill.

Er gwaethaf y nifer sylweddol o bobl sy’n herio’r rheolau, datgelodd yr arolwg fod barn gyhoeddus gref o blaid plismona mwy llym ar y system

Dywedodd bron 70% o’r ymatebwyr nad oedd hi byth yn dderbyniol i barcio mewn man parcio neilltuedig heb hawlen, a dim ond 6% a ddadleuodd fod parcio yn y mannau neilltuedig yn dderbyniol os bydd rhywun ar frys neu eisiau parcio am ychydig funudau yn unig.

Yn ychwanegol, dywedodd mwy na thraean o’r rhai hynny a holwyd y dylid clampio ceir y gyrwyr hynny sy’n camddefnyddio’r mannau hyn, neu halio’u ceir ymaith. Dim ond 20% o’r ymatebwyr a ddywedodd y byddai dirwy o lai na £100 yn briodol.

Er bod y bathodynnau ar eu newydd wedd yn cael eu dosbarthu gan gynghorau lleol, maent wedi’u cysylltu â chronfa ddata newydd yn y DU ar gyfer defnyddwyr cymwys. Mae hynny’n ei gwneud yn haws o lawer i’r heddlu ac i wardeiniaid parcio, ble bynnag y bônt yn y wlad, gadarnhau a yw bathodyn yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon.

Mae’r Farwnes Tanni Grey Thomson o blaid cryfhau’r system. Fe ddywedodd ei bod yn ymwybodol iawn o’r problemau sy’n cael eu hachosi gan y rhai hynny sy’n camddefnyddio’r system, er mai lleiafrif yn unig o yrwyr sy’n tramgwyddo fel hyn. Dywedodd:

“Mae camddefnyddio’r system yn sicr yn broblem, a rhaid i bethau newid. Rwy’n credu bod y mater wedi gwaethygu, ac wedi mynd yn fwy cyffredin dros y blynyddoedd. Mae pobl yn twyllo’r system.”

Dywedodd yr athletwraig sydd wedi ennill llu o fedalau Paralympaidd, ac sy’n defnyddio cadair olwynion, iddi gael trafferth oherwydd y broblem. Eglurodd:

“Mae angen digon o le arnaf i agor drws fy nghar ar led i gael fy nghadair olwynion allan o’r car. Ond mae pobl yn defnyddio’r mannau parcio neilltuedig pan na ddylent.”

Ychwanegodd:

“Mae gwahanol lefelau o gamddefnyddio’r mannau hyn. Mae yna bobl sy’n defnyddio bathodynnau sy’n perthyn i aelodau eraill o’r teulu; mae yna rai sy’n ffugio Bathodynnau Glas; ac mae yna eraill sydd ddim yn defnyddio Bathodyn Glas o gwbl hyd yn oed.”

“Hoffwn i’r bobl hynny, sy’n parcio’n anghyfreithlon yn y mannau hyn, feddwl cyn gwneud hynny. Dylent feddwl am sefyllfa pobl eraill sy’n llai abl yn gorfforol na nhw o ran gallu symud ar hyd y lle, a sylweddoli nad yw’n deg.”

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau:

“Mae’r Bathodyn Glas newydd sy’n fwy diogel yn atal y rheini sy’n camddefnyddio’r hawlenni hyn ac yn lleihau parcio anghyfreithlon yn gyffredinol yn y mannau neilltuedig hyn.”

“ Mae’r arolwg yn dangos bod cefnogaeth gyhoeddus gref o blaid hynny. Er mai lleiafrif bach o bobl sy’n torri’r rheolau, maen nhw’n gallu gwneud bywyd yn anodd iawn i nifer o bobl anabl sy’n gyrru ceir neu’n teithio ynddynt. Rhaid i ni gael gwared ar yr arfer hwn.”

Mae tua 230,000 o Fathodynnau Glas yn cael eu defnyddio yng Nghymru, a 2.5 miliwn yn cael eu defnyddio ar hyd a lled y DU. Mae adroddiad swyddogol gan Lywodraeth y DU wedi tynnu sylw at y camddefnyddio helaeth sy’n digwydd o ran twyllo’r system, naill ai drwy ffugio bathodynnau neu drwy gamddefnyddio bathodynnau go iawn gan bobl anghymwys.

Yn ychwanegol at yr effaith negyddol y mae hyn yn ei chael ar bobl anabl, yn ôl yr adroddiad, amcangyfrifwyd bod y camddefnyddio twyllodrus hwn yn costio cyfanswm o £46 miliwn y flwyddyn i’r DU o ganlyniad i’r nifer sy’n osgoi talu costau parcio.

Dechreuwyd cyflwyno’r Bathodynnau Glas ar eu newydd wedd ym mis Ebrill eleni, a chânt eu dosbarthu i ddefnyddwyr cymwys pan fydd gofyn iddynt adnewyddu eu hawlenni presennol dros y tair blynedd nesaf.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Trafnidiaeth 24 Awst 2012 Current issues Rhaglen Lywodraethu Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i