Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Rwyf wrth fy modd y bydd Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a rhwydwaith Rheilffordd y Cymoedd yn cael eu trydaneiddio yn ystod y cyfnod nesaf o fuddsoddi yn y rheilffyrdd.
"Mae buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth yn hanfodol wrth i ni geisio gwella cystadleugarwch economaidd Cymru. Bydd trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western o Gaerdydd i Abertawe yn sicrhau coridor economaidd cryfach o’r dwyrain i’r gorllewin. Bydd hyn yn hwb mawr i rôl Abertawe fel canolfan economaidd.
"Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cefnogi’n safbwynt nad Caerdydd yw diwedd y lein nac unig ganolbwynt ein huchelgais o ran llwyddiant economaidd yng Nghymru."
Ychwanegodd Carl Sargeant:
"Mae trydaneiddio rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd yn gyfle i chwyldroi teithio i gymunedau’r Cymoedd a chysylltiadau â’r canolfannau economaidd. Bydd hefyd yn creu dalgylch cyflogaeth mwy i fusnesau sydd eisiau buddsoddi yn y rhanbarth.
"Mae rhwydwaith rheilffordd wedi’i drydaneiddio yn fwy darbodus i’w weithredu a’i gynnal a’i gadw. Bydd yn sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwyr. Bydd teithiau’n fwy cynaliadwy yn economaidd a byddant yn gyflymach ac yn dawelach i deithwyr. Bydd teithiau hyd at 20% yn gynt na’r amserlenni presennol.
"Mae’r penderfyniad i fuddsoddi yn y prosiectau hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf tuag at wireddu fy ngweledigaeth o seilwaith rheilffyrdd modern i Gymru gyfan. Gallwn, yn awr, fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer system drafnidiaeth integredig i ranbarth y de-ddwyrain.
"Byddwn nawr yn gweithio gyda’r Adran Drafnidiaeth a Network Rail i sicrhau bod Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe wedi’i thrydaneiddio erbyn 2018 a bod trydaneiddio rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd yn cyd-fynd â dyfarniad y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf ar gyfer rhanbarth Cymru a’r Gororau."
Mae cyhoeddiad Manyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) yr Ysgrifennydd Gwladol yn nodi’r hyn y mae disgwyl i Network Rail ei gyflawni yn ystod y cyfnod buddsoddi nesaf (Cyfnod Rheoli 5, 2014-2019). Arweiniodd Llywodraeth Cymru’r gwaith o ddatblygu achosion busnes a gyflwynwyd i’r Adran Drafnidiaeth ac a ystyriwyd ar gyfer eu cynnwys yn yr HLOS.











