Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llai o amser teithio dros ŵyl y banc gyda bach o baratoi a chynllunio

Wrth i filoedd o fodurwyr anelu am y ffyrdd y penwythnos hwn i fwynhau gŵyl banc mis Awst mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, wedi annog modurwyr i ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith.
Dydd Iau 23 Awst 2012

Y disgwyl yw mai dydd Gwener fydd un o ddyddiau prysuraf y flwyddyn ar ein ffyrdd ac mae Traffig Cymru, gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru i deithwyr, yn cynghori modurwyr i baratoi’n drylwyr a chynllunio eu taith ymhell ymlaen llaw.

Dywedodd Carl Sargeant:

“Mae’n naturiol disgwyl y bydd ein ffyrdd yn prysuro dros y penwythnos hwn, ond gall ychydig o waith paratoi olygu’r gwahaniaeth rhwng taith bleserus dros ŵyl y banc a diwrnod llawn tagfeydd.”

" Mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â’r Asiantaethau Trafnidiaeth i wneud yn siŵr mai dim ond gwaith gwirioneddol angenrheidiol neu waith brys fydd yn cael ei wneud ar y ffyrdd dros y cyfnod prysur hwn.

“ Bydd Traffig Cymru yn cydweithio â’r asiantaethau sy’n bartneriaid i fonitro ac asesu’r sefyllfa draffig yn ofalus drwy gydol y penwythnos ac yn cymryd camau ar fyrder os bydd tagfeydd neu oedi’n datblygu.”

" Byddwn i’n annog modurwyr i gynllunio eu hamseroedd teithio cyn gadael, gan dalu sylw i’r bwletinau traffig ar y radio a mynd i wefan Traffig Cymru am yr wybodaeth ddiweddaraf, neu ddilyn negeseuon Traffig Cymru ar twitter."

Mae Traffig Cymru yn cynghori modurwyr i ystyried teithio pan fo’r ffyrdd yn dawelach; gallai gadael awr ynghynt olygu treulio llawer llai o amser yn teithio.

Gall Traffig Cymru eich helpu i gynllunio eich taith hefyd – gall modurwyr ffonio 0845 602 602 0 i gael cyngor teithio unigol, trefnu i gael negeseuon testun a rhybuddion drwy’r e-bost yn www.traffic-wales.com neu ddilyn @trafficwales.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

www.traffic-wales.com @trafficwales

Tagiau

Trafnidiaeth 23 Awst 2012 Current issues Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i