Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lansio ymgynghoriad ar gymhwysedd ar gyfer y Bathodyn Glas

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i ehangu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Bathodyn Glas er mwyn sicrhau y bydd y rhai sy’n gymwys i gael bathodyn yn parhau’n gymwys yn dilyn y newidiadau sydd ar y gweill i system les y DU.
Dydd Mawrth 07 Awst 2012

Mae’r ymgynghoriad, a fydd yn parhau am dri mis, yn ymateb yn uniongyrchol i’r newidiadau arfaethedig i system fudd-daliadau lles y DU a fydd yn golygu cyflwyno Taliad Annibyniaeth Bersonol i bobl 16­ – 64 oed yn lle’r Lwfans Byw i’r Anabl.

Ar hyn o bryd, mae pawb sy’n derbyn ‘Cyfradd Uwch Elfen Symudedd’ y Lwfans Byw i’r Anabl yn gymwys yn awtomatig i gael bathodyn glas. Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu’r cynigion i gysylltu cymhwysedd awtomatig i gael bathodyn glas gyda’r Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Meddai Carl Sargeant:

“Mae gennym ni bryderon am effeithiau posibl diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i’r drefn les ar rai o bobl dlotaf a mwyaf bregus Cymru”.

“ Drwy gysylltu’r Taliad Annibyniaeth Bersonol â’r cymhwysedd i gael bathodyn glas byddwn yn helpu i lywio penderfyniadau awdurdodau lleol ar ymgeiswyr am fathodynnau glas a lleihau’r baich asesu ar gyfer ymgeiswyr sy’n agored i niwed.

“ Yn y Rhaglen Lywodraethu rydym ni wedi ymrwymo i leihau lefelau tlodi ymhlith rhai o’n pobl a’n cymunedau tlotaf.

“ Rydw i am sicrhau nad yw’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r system les ar lefel y DU yn niweidio’r rhai sy’n gallu defnyddio’r bathodyn glas yn rhad ac am ddim yng Nghymru ar hyn o bryd.”

“ Byddwn i’n annog pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad a rhannu eu sylwadau ar y cynigion hyn.”

Dyma rai o ganlyniadau posibl peidio cysylltu’r Taliad Annibyniaeth Bersonol â chymhwysedd ar gyfer y Bathodyn Glas:

  • ni fyddai’r rhai sy’n dal bathodyn glas yn gymwys i gael bathodyn yn awtomatig pan fo’n dod i ben (ar ôl tair blynedd fel arfer)
  • byddai gofyn i’r awdurdod lleol wneud mwy o waith craffu, asesu a dilysu ar gyfer ceisiadau am fathodynnau
  • cynnydd posibl yn y defnydd o asesiadau gan feddygon teulu gyda’r costau, o bosibl dros hanner miliwn o bunnau’r flwyddyn, yn cael eu trosglwyddo i’r Byrddau Iechyd Lleol.

Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog fod y Bathodyn Glas newydd –sy’n anoddach i’w gopïo, ei ffugio neu’i addasu o ganlyniad i wella’r dyluniad – ar gael i bawb sy’n ei ddal yn rhad ac am ddim.

Daeth hynny yn sgil ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Bathodyn Glas i gynnwys rhieni plant o dan dair oed sydd â chyflyrau meddygol penodol, pobl ag anableddau yn y ddwy fraich a milwyr a chyn-filwyr a anafwyd yn ddifrifol.

Mae’r Gweinidog yn benderfynol y dylai llwyddiant Cynllun y Bathodyn Glas barhau er gwaethaf rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU.

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan fis Hydref a bydd y newidiadau i’r system les yn cael eu cyflwyno fesul cam o fis Ebrill 2013 ymlaen.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cynlluniau i Newid y Meini Prawf Cymhwysedd Awtomatig

Tagiau

Trafnidiaeth 07 Awst 2012 Gwella iechyd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i