Bydd y ffyrdd newydd yn lleihau tagfeydd traffig ar y rhwydwaith ffyrdd lleol ac yn dod â manteision aruthrol i’r busnesau a’r gweithwyr ar y Stad. Cawsant eu hadeiladu mewn pryd ac o fewn y gyllideb.
Gan ei bod bellach yn haws cyrraedd y Stad o’r A483 yn y gogledd ac o’r A5252 yn y de, rhagwelir y bydd 18,000 o gerbydau yn defnyddio’r ffyrdd newydd bob dydd, gan leihau tagfeydd traffig yng nghanol tref Wrecsam. £30 miliwn oedd cost y ffordd, sydd ryw £5 miliwn yn llai na’r swm a neilltuwyd yn y gyllideb.
Dywedodd Carl Sargeant cyn agoriad swyddogol y ffyrdd newydd:
"Dyma brosiect sy’n enghraifft o gydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol, i gyflawni blaenoriaethau lleol mewn da bryd ac o fewn y gyllideb."
"O gael gwell cysylltiadau bydd y Stad Ddiwydiannol yn rhoi hwb derbyniol iawn i economi’r ardal ac yn gwella ansawdd bywydau’r trigolion sy’n byw gerllaw’r Stad Ddiwydiannol trwy fynd â’r traffig trwm draw o’u cartrefi."
"Mae’r ffordd newydd hon i’r Stad yn arwydd o’n hymrwymiad i wella’r seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Bydd yn gyfraniad pwysig at wneud y busnesau sydd ar y Stad yn fwy cystadleuol."
Comisiynwyd gweithlu o 130 o Birse Civil Engineers i gwblhau’r gwaith ar y prosiect, a nodwyd fel un o’r rhai oedd i dderbyn blaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Maer Wrecsam:
"Dyma ddiwrnod hanesyddol i Stad Ddiwydiannol Wrecsam, ei fusnesau a’i weithwyr, sydd wedi disgwyl mor amyneddgar am yr agoriad hwn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i Lywodraeth Cymru am ddangos ei hymrwymiad i’r ardal trwy sicrhau bod yr arian yn cael ei neilltuo ar gyfer adeiladu’r cyswllt hollbwysig yma i’r Stad."
Ffordd ddeuol ddwy lôn yw’r ffordd ogleddol sy’n mynd o ben gogleddol cylchfan Borras i lawr at gylchfan Lôn y Bryn wrth ymyl y ffatri JCB ym mhen deheuol y Stad Ddiwydiannol.
Ffordd unffrwd ddwy lôn yw’r ffordd sy’n arwain i’r Stad o’r de. Mae honno’n mynd o Five Fords yn y gogledd i’r A525 ger Cross Lanes yn y de.











