Yn ôl Ystadegau Trafnidiaeth Cymru, 2010 – a gyhoeddwyd wythnos yma - fe wnaeth tua 26 miliwn o deithwyr gychwyn neu orffen eu siwrneiau trên yng Nghymru yn 2009-10, sy’n gynnydd o 3 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r cynnydd hwn yng Nghymru yn cymharu’n ffafriol â’r duedd ar draws Prydain, lle gwelwyd gostyngiad o 0.64% yn y niferoedd a ddefnyddiodd y trenau dros yr un cyfnod.
Mae’r ffigurau hyn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu’r cynllun tocynnau trên rhatach poblogaidd ar bedair rheilffordd wledig ledled Cymru am gyfnod o ddwy flynedd.
Dywedodd Mr Sargeant,
“Mae Llywodraeth Cymru yn hollol ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo teithio cynaliadwy, ac roedd ymestyn y cynllun tocynnau trên rhatach yn brawf o hynny.
“Mae’r ffigurau hyn yn cyfiawnhau ein penderfyniad i ymestyn cynlluniau o’r fath, ac maent yn arwydd gobeithiol ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir o ran lleihau’r defnydd o geir preifat a chynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus - gan gynnwys y rheilffyrdd.”
Gall pobl sydd â Cherdyn Cymru cymwys yn Sir Gaerfyrddin a Phowys deithio ar linell Calon Cymru a deiliaid y pas yng Ngwynedd ddefnyddio llinell Arfordir y Cambrian dros fisoedd y gaeaf.
Bydd tocynnau rhatach hefyd yn parhau ar Linell y Gororau a Llinell Dyffryn Conwy am ddwy flynedd arall i ddeiliaid pas teithio Cerdyn Cymru cymwys yng Nghonwy, Sir y Fflint a Wrecsam - tan 30 Medi 2013.











