Mae’r Cerdyn Iff - sy’n cael ei lansio gan Fws Caerdydd - yn defnyddio technoleg newydd gyda’r nod o annog defnydd bysiau o amgylch canol y ddinas drwy wneud teithio’n haws.
Caiff y cerdyn newydd ei ddatgelu i’r cyhoedd am 12:30pm tu allan i Lyfrgell Caerdydd gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, y Cynghorydd Caerdydd Delme Bowen, Aelod Gweithredol dros Drafnidiaeth, a’r Cynghorydd Caerdydd Joseph Carter, Cadeirydd Bws Caerdydd.
Mae’r cerdyn Iff yn gysylltiedig â chynllun Dinas Teithio Cynaliadwy a redir gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r bwriad yw helpu’r brifddinas i ddod yn Ddinas Teithio Cynaliadwy drwy annog defnydd bysiau o amgylch canol y ddinas.
Bydd Iff - sy’n gerdyn call yn debyg i’r rhai a ddefnyddir gan gwmnïau teithio ledled y wlad - yn unigryw i bob defnyddiwr. Fe all gael ei lwytho â chredyd ymlaen llaw, gan roi terfyn ar dalu gyda newid am bob taith, a gall gael ei ddefnyddio’n tocyn tymor hefyd. Yn ogystal mae’n gadael i gwsmeriaid stopio eu cerdyn ac adfer eu balans presennol os byddant yn colli eu cerdyn.
Bws Caerdydd hefyd fydd y cwmni bysiau cyntaf yn y DU i adael i ddefnyddwyr ei Gerdyn Iff fynd hyd at £3 i ddyled - sy’n gyfartal â dwy daith sengl. Caiff hyn ei groesawu gan rieni ar hyd a lled y ddinas.
Mae Bws Caerdydd yn bwriadu estyn ei gyfathrebu â chwsmeriaid hefyd – yn dilyn ei ddefnydd o Twitter a Facebook – drwy anfon diweddariadau am wasanaethau i deithwyr drwy negeseuon testun neu e-bost yn ystod cyfnodau tagfeydd traffig neu dywydd gwael.
Dywed y Cynghorydd Joe Carter, Cadeirydd Bws Caerdydd:
“Mae cerdyn call yn uchelgais gan Fws Caerdydd ers blynyddoedd lawer, a’r dechnoleg sydd wedi ein dal yn ôl - tan heddiw. Mae’n siŵr gen i y byddwch wedi sylwi bod enw’n cerdyn call newydd “IFF” yn chwarae ar y geiriau “Card” ac “iff”. Ein nod yw i “IFF” ddod gymaint yn rhan o’r iaith leol yng Nghaerdydd ag y mae’r cerdyn “Oyster” yn Llundain. Mae IFF yn gerdyn rhagdalu ac yn docyn tymor, ac mae’n dda gallu adrodd y bydd cael y newid cywir yn broblem y gorffennol bellach i’r mwyafrif o’n cwsmeriaid”.
Dywed Aelod Gweithredol dros Drafnidiaeth Cyngor Caerdydd, Delme Bowen:
“Pobl Caerdydd sy’n berchen ar Fws Caerdydd, ac mae llawer o fanteision wedi deillio o hynny. Y cwmni oedd un o’r gweithredwyr bysiau cyntaf yn y DU i gyflwyno fflyd sy’n gwbl hawdd ei fynediad/llawr isel – rhyw saith blynedd o flaen y terfyn amser o 2016. Mae wedi buddsoddi’n drwm mewn injanau a systemau modern cyfeillgar i’r amgylchedd. Mae wedi arloesi technoleg newydd o deledu ar fysiau drwodd i gofnodi data ar fysiau, gyda CCTV ansawdd uchel ar bob bws. Yn 2010 cafodd Bws Caerdydd ei lansio ar Twitter a Facebook – gan ganiatáu cyfathrebu yn y fan a’r lle â’i gwsmeriaid. Rydym wrth ein bodd gweld y buddsoddiad diweddaraf hwn mewn technoleg newydd yn cael ei estyn i gynnwys cardiau call.”
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones:
“Mae’n bleser mawr gen i weld lansio’r fenter bwysig yma sy’n ddatblygiad positif i Fws Caerdydd a’r miloedd o ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus mae’n eu gwasanaethu. Dyma’r un ddiweddaraf mewn cyfres o fuddsoddiadau yn y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghaerdydd ac yn brawf pellach ein bod ni i gyd wedi ymroi i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i deithwyr.
“Mae hon yn garreg filltir bwysig hefyd i brosiect cerdyn hawl i drafnidiaeth Cymru. Mae’r newid i ITSO yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol gynnig system drafnidiaeth fwy hyblyg i’n dinasyddion, gan leihau costau, gwella effeithlonrwydd a chynnig gwell profiad teithio i deithwyr ledled Cymru.”
Mae Bws Caerdydd wedi anfon taflenni gwybodaeth am Iff i 120,000 o gartrefi yng Nghaerdydd, ac yn annog pobl i anfon am eu Cerdyn Iff yn rhad ac am ddim. Am gyfnod cyfyngedig, caiff ymgeiswyr £3 o deithio am ddim. Bydd 80,000 o daflenni pellach ar gael ar fysiau ac o’r ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid.











