Wrth iddo deithio rhwng Llandeilo ac Abertawe ar drên sydd newydd ei ailwampio (sef un o'r wyth trên sy'n cael eu hailwampio fel rhan o raglen ehangach gwerth £7.5 miliwn Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella'r rheilffyrdd) bydd Mr Jones yn codi ymwybyddiaeth o'r ffaith y bydd deiliaid Cerdyn Cymru yn gallu elwa ar docynnau teithio am ddim i'r rheilffyrdd ar hyd llinell Calon Cymru dros yr hydref a'r gaeaf.
Ailddechreuodd cyfnod peilot y cynllun tocynnau teithio rhatach ar hyd llinell Calon Cymru ddechrau mis Hydref (3 Hydref) i ddeiliaid cardiau cymwys yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Phowys. Manteisiodd 115,000 o bobl ar y cynllun y llynedd.
Meddai Mr Jones,
"Mae'r cynllun tocynnau teithio rhatach ar hyd y rheilffyrdd gwledig yn parhau i fod yn boblogaidd iawn – yn enwedig ymhlith pensiynwyr sydd heb gar a'r rheini sy'n teimlo eu bod yn cael eu hynysu oherwydd diffyg gwasanaethau bws â'r rheini ar incwm pensiwn isel.
"Mae'r ymrwymiad hwn yn Cymru'n Un wedi dangos bod tocynnau teithio am ddim ar gyfer y rheilffyrdd yn gallu gwireddu amcanion polisi allweddol gan gynnwys cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, lleihau'r defnydd o geir preifat, lleihau ynysu gwledig a chryfhau cymunedau gwledig."
Bydd tocynnau rhatach yn parhau i gael eu cynnig hefyd ar reilffyrdd y Gororau a Dyffryn Conwy. Ailddechreuodd Cynllun Rheilffordd Arfordir y Cambrian ddechrau mis Hydref hefyd ar gyfer deiliaid cardiau cymwys yng Ngwynedd.
Bydd y cynllun yn parhau tan 27 Mawrth 2011 ar Reilffyrdd Calon Cymru ac Arfordir y Cambrian ac am 12 mis arall tan ddiwedd mis Medi ar reilffyrdd y Gororau a Dyffryn Conwy.
Dangosodd adroddiad gwerthuso annibynnol ar y cynllun gan Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru fod tocynnau teithio am ddim ar gyfer y rheilffyrdd yn newid tueddiadau teithio ac yn lleihau'r defnydd o geir – dywedodd 74% o'r bobl a atebodd yr holiadur eu bod yn defnyddio'r trên yn amlach bellach oherwydd y cynllun.
Yn ogystal â'r effaith gadarnhaol y gall tocynnau teithio am ddim ar gyfer y rheilffyrdd ei chael ar fywydau pobl, dangosodd yr adroddiad hefyd bod y defnydd uwch o wasanaethau trên wedi arwain at wariant uwch sydd wedi bod o fudd mawr i'r economi wledig – mae'r rhan fwyaf o deithwyr yn gwario £50 wrth fynd i'r siopau, prynu bwyd a diod ac ymweld â lleoliadau hamdden lleol.
Gwnaed cyfanswm o 97,181 o deithiau am ddim ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn 2009/10 – gyda bron 23,000 o'r rheini ar hyd llinell Calon Cymru.











