Mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth wedi dyrannu £3.8 miliwn i fusnesau twristiaeth yng Nghymru ers Ebrill 2011, gan greu a diogelu 350 o swyddi. Gall busnesau sydd eisoes yn bodoli a busnesau newydd fanteisio ar y gronfa i uwchraddio ansawdd cyfleusterau a chynyddu gallu lle bo bwlch yn y farchnad.
Gan groesawu’r newyddion, dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart:
"Mae creu 300 o swyddi newydd yn un o’n sectorau twf allweddol yn newyddion ardderchog i Gymru, yn arbennig yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn i’r DU. Mae hefyd yn dangos, er gwaetha’r tywydd siomedig, bod dyfodol disglair i dwristiaeth yng Nghymru.
"Mae twristiaeth werth tua £4 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, ac mae potensial enfawr i ehangu felly allwn ni ddim fforddio eistedd ‘nôl. Er mwyn gallu cystadlu yn erbyn cystadleuaeth gref o gyfeiriad gweddill y DU a thu hwnt, mae’n hanfodol i ni ddod â chynnyrch newydd o safon i’r farchnad o hyd a gwella profiad yr ymwelwyr."Roedd yn dda gweld busnesau twristiaeth ledled Cymru’n manteisio ar arian y Cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf, er mwyn ceisio gwella ansawdd eu cynnyrch a mynd o nerth i nerth."
Ers mis Ebrill 2011, mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth wedi buddsoddi cyfanswm o dros £3.8 miliwn, gyda chyfanswm costau cyfalaf prosiectau Cymru dros £14.1 miliwn.
Un o’r busnesau sydd wedi elwa o’r cynllun yw gwesty Browns Hotel yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin. Wedi dirywio a chau am gyfnod, mae cyn dafarn leol Dylan Thomas bellach yn ailagor fel gwesty moethus 15 ystafell.
Derbyniodd yr adeilad rhestredig gradd II £230,000 o arian gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd rheolwr cyffredinol Browns Hotel, Charlie Dyer:
"Mae’r trawsnewidiad dros y misoedd diwethaf wedi bod yn syfrdanol. Gyda chefnogaeth hanfodol Llywodraeth Cymru roedd modd i ni adnewyddu adfail o adeilad ac rwy’n falch iawn i ni fedru ailagor mewn pryd ar gyfer dathliadau cenedlaethol canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas."
Busnes arall sydd wedi elwa o gefnogaeth y Cynllun yw Gwesty Castell Rhuthun yn Sir Ddinbych. Derbyniodd £500,000 er mwyn uwchraddio’r adeilad i fod yn westy 4 seren a datblygu cyfleuster sba.
Dywedodd Anthony Saint Claire o Gastell Rhuthun:
"Mae’r gwesty newydd orffen y gwaith o uwchraddio’r 38 ystafell wely olaf allan o 60 i safon 4 seren ac wedi creu profiad sba Cymreig o’r enw 'The Moat'.
"Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, roedd y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn hanfodol i’n cynlluniau ar gyfer Castell Rhuthun. Mae’n braf iawn gweld y cynlluniau’n dwyn ffrwyth, ond yn fwy na hynny, bydd y math hwn o gyfleuster yn Rhuthun yn helpu’r holl ardal drwy ddenu ymwelwyr i Gymru a chreu mwy o swyddi."











