Casglwyd y ffigurau hyn yn Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr rhwng Ionawr a Rhagfyr 2011. Dyma’r ffigurau uchaf erioed i Gymru ers i’r Arolwg ddechrau yn ei ffurf bresennol yn 2006.
Cynyddodd nifer y teithiau i Gymru gan 11.9% y llynedd, o 8.67 miliwn o deithiau yn 2010 i 9.70 miliwn o deithiau yn 2011. Bu cynnydd o 20.6% yng ngwariant yr ymwelwyr, o £1.4 biliwn i £1.7 biliwn.
Croesawodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart y ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
"Mae’r ffigurau hyn yn wych ac yn galonogol iawn. Y tasg nawr yw gwella ar y ffigurau yma. Rwy’ wedi neilltuo £850,000 ychwanegol i gefnogi ymgyrch Croeso Cymru sydd ar waith ledled y DU, i hybu gwyliau yng Nghymru yn ystod 2012."
O’r holl ymweliadau â Chymru yn ystod 2011, roedd 62% ohonynt yn wibdeithiau, sef cynnydd o 4.8% ar ffigurau 2010. Yn unol â hyn, cynyddodd y gwariant gan 17.2%. Roedd ymwelwyr wedi gwario cyfartaledd o £50 y nos yn 2011, o’i gymharu â £44 yn 2010.
Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd y Panel Sector Dwristiaeth, bod y ffigurau’n adlewyrchu gwaith caled parhaus y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ond fe wnaeth e rybuddio yn erbyn hunanfoddhad.
"Dim ond un set o ffigurau yw'r rhain. Bydd rhaid i ddatblygiad cynnyrch a marchnata Cymru wella os yw'r twf a gwelwyd yn y ffigurau yma am barhau."











