Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Merthyr yn barod i rocio

Y band roc rhyngwladol Razorlight fydd un o’r prif atyniadau yng Ngŵyl Roc Merthyr eleni (31 Awst - 2 Medi) ynghyd â Skindred a Kids in Glass Houses. Dyma ail flwyddyn yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal ym Mharc Cyfarthfa ar diroedd ysblennydd Castell Cyfarthfa y tu allan i Ferthyr.
Dydd Mawrth 28 Awst 2012
MERTHYR YN BAROD I ROCIO

Yn ôl Jen Long, sy’n gyflwynydd ar Radio 1, mae’r ŵyl yn un o’r digwyddiadau mawr ar galendr cerddoriaeth Cymru ac eleni, bydd yn cael ei chynnal dros dri diwrnod yn lle dau. Gobeithir y bydd torfeydd mawr yn dod i weld y bandiau byd-enwog a fydd yn perfformio yno ochr yn ochr â’r cerddorion gorau o Gymru - yn hen lawiau sydd wedi ennill eu plwyf ac yn gerddorion sy’n dechrau dod i’r amlwg.  

Ar y diwrnod olaf, ‘A’ fydd y prif fand ar ail lwyfan yr ŵyl, sy’n cael ei drefnu gan The Blackout, band roc o Gymru. Ymhlith aelodau’r band ‘A’ mae’r cynhyrchydd Jason Perry a chyflwynydd Sioe Roc Radio 1, Daniel P Carter.

Bydd y bandiau hyn i’w gweld yn yr ŵyl hefyd: Deaf Havana, Saves The Day, Yashin, Lower Than Atlantis, Futures, We Are The Ocean, Exit Ten, Rise to Remain, Future of The Left, Straight Lines, Don Broco, Sonic Boom Six, Shadows Chasing Ghosts, Reaper In Sicily, The People The Poet, The Lash, The Undivided an llawer mwy.

Mae’r ŵyl yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Twristiaeth:

“Mae Gŵyl Roc Merthyr yn ddigwyddiad diwylliannol uchel ei broffil a bydd yn denu miloedd o ddilynwyr o bob cwr o’r DU.

“Mae’n enghraifft wych o bartneriaeth, gyda llywodraeth leol, llywodraeth ganol a grwpiau cymunedol yn cydweithio i sicrhau bod yr ŵyl yn llwyddiant.

“Mae gan Ferthyr dreftadaeth gerddorol a diwylliannol cyfoethog ac mae Gŵyl Roc Merthyr yn gyfle i ddoniau lleol berfformio ochr yn ochr â bandiau tebyg i Razorlight yn y lleoliad hanesyddol hwn ar gyrion Merthyr.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Twristiaeth 28 Awst 2012 Yr economi Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i