Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

O Fannau Brycheiniog i Fiwmares - mae gan Gymru rywbeth i’w gynnig i bawb y penwythnos gŵyl banc hwn

Rhwng 25 a 26 Awst, bydd arddangosfa bwyd a diod sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol yn Ffair Haf Bannau Brycheiniog ac yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan cynhelir ‘Penwythnos o Hwyl’ sy’n cynnwys pobi traddodiadol, saethyddiaeth, dweud stori a stondinau crefft.
Dydd Iau 23 Awst 2012

Os mai diferyn o gwrw sy’n tynnu dŵr i’ch dannedd, Gŵyl Gwrw Bae Abertawe fydd yr union beth i chi.  Cynhelir yr Ŵyl ar 25 Awst a hefyd y diwrnod hwnnw, bydd tîm pêl-droed Abertawe yn chwarae yn erbyn West Ham yn Stadiwm Liberty yn ei gêm gartref gyntaf y tymor hwn yng nghystadleuaeth yr Uwch Gynghrair.

Rhwng 26 a 27 Awst, Ffantasi Ganoloesol fydd y thema yng Nghastell Biwmares ar Ynys Môn a bydd cyfle i weld marchogion yn brwydro a saethwyr dawnus.  Hefyd, cewch fwynhau cerddoriaeth, canu, dawnsio a llawer mwy ar lawnt y castell hwn sy’n Safle Treftadaeth y Byd.

Ddydd Sadwrn 25 Awst, cynhelir cystadleuaeth Grand Prix Speedway FIM Prydain yn Stadiwm y Mileniwm lle bydd 15 o feicwyr gorau’r byd yn rasio ym Mhencampwriaeth y Byd.  Byddant yn gyrru ar gyflymder o hyd at 70 mya ond does gan eu beiciau 500cc ddim brêc o fath yn y byd!

Ddydd Llun Gŵyl y Banc, bydd Cae Ras Cas-gwent yn croesawu ymwelydd pwysig iawn sef Peppa Pinc.  Bydd y mochyn bach enwog yn y cae ras i gynnal Diwrnod Rasio i’r Teulu cyfan.

Mae Profiad Dr Who yn parhau i ryfeddu ymwelwyr ym Mae Caerdydd a bydd cyfle i chi fwynhau’r profiad drwy’r haf.

Uwchlaw’r afon Conwy gyda golygfeydd ysblennydd i lawr y cwm tua’r Wyddfa mae Gerddi Bodnant.  Os byddwch chi’n ymweld â’r gerddi ddydd Sul, 26 Awst, byddwch yn cael eich swyno gan dincial tannau telynau wrth ichi ymlwybro’n hamddenol o gwmpas y gerddi.

Ddydd Sadwrn 25 Awst, cynhelir rasys Cwrwgl blynyddol ar yr afon Teifi yng Nghilgerran ger Aberteifi.  Bydd rhwydwyr cwrwgl lleol yno i groesawu wynebau hen a newydd.  Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofio’ch cwrwgl!

A llawer mwy…

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes a Thwristiaeth:

“Mae hon yn rhestr o ddigwyddiadau penigamp - adloniant, campau a diwylliant o bob math sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru'r penwythnos gŵyl banc hwn.  Mae’r digwyddiadau hyn yn gwneud Cymru’n gyrchfan rhagorol i ymweld â hi dros Ŵyl y Banc ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gweld hyd yn oed mwy o ymwelwyr dros y penwythnos hir yn mwynhau eu hunain ac yn cael blas o’r hyn sydd gan Gymru i’w chynnig.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Twristiaeth 23 Awst 2012 Yr economi Bwyd a physgodfeydd Bwyd lleol Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i