Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ffilmio ‘Snow White and the Huntsman’ yn Sir Benfro

Nid hwn yw’r tro cyntaf i geffylau, criwiau ffilmio a hud Hollywood greu drama ar Draeth Marloes yn Sir Benfro. Hwn oedd y lleoliad a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffilm The Lion in Winter (1968) hefyd gyda Peter O’Toole, Katharine Hepburn ac Anthony Hopkins.
Dydd Llun 28 Mai 2012

Mae’r ffilm Snow White and the Huntsman, sef portread newydd Universal Pictures o stori Eira Wen, yn cael ei chynhyrchu gan Joe Roth (Alice in Wonderland) a Sam Mercher (The Sixth Sense) a’r cyfarwyddwr yw Rupert Sanders.  Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau yn sinemâu Prydain ar 30 Mai.

Kristen Stewart (Twilight) a’r actor o Awstralia Chris Hemsworth (Thor) sy’n chwarae’r prif gymeriadau ac ym mis Medi 2011, bu’r ddau yng Nghymru yn ffilmio rhai o brif olygfeydd y ffilm.

Cysylltodd tîm lleoliadau y cwmni â Chomisiwm Sgrîn Cymru (sy’n rhan o dîm Sector Creadigol Llywodraeth Cymru) mor bell yn ôl â mis Tachwedd 2010, gan eu bod yn chwilio am glogwyn uchel er mwyn gallu ei gynnwys i greu rhai elfennau o gastell y frenhines. O’r cychwyn cyntaf, Traeth Marloes oedd y ffefryn.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y Cynghorydd Tony Brinsden:  

"Roedd angen golygfeydd godidog ar y cwmni ac roedd gan arfordir rhagorol y Parc Cenedlaethol bopeth oedd ei hangen arnynt.  Pleser o’r mwyaf oedd cael y cyfle i groesawu’r cast a’r criw ffilmio i’r Parc."

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart bod defnyddio Cymru fel lleoliad ar gyfer ffilmio yn creu nifer o fuddiannau economaidd a chyfleoedd busnes.  

“Nid yn unig mae’r ffilmiau hyn yn ein helpu i ddangos tirweddau a morluniau syfrdanol Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol, ond mae’n creu miliynau o bunnau i’r economi ac yn rhoi hwb ariannol sylweddol i gymunedau lleol a’r sector diwydiannau creadigol ehangach.”

Mae Comisiwn Sgrîn Cymru’n monitro faint o arian y mae pob cynhyrchiad y maen nhw'n ei helpu yn ei wario ac yn y flwyddyn ddiwethaf, mae cwmnïau ffilm a theledu wedi gwario dros £22 miliwn yng Nghymru.

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Cyflawni a Darganfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:  

“Gwnaeth y gwaith ffilmio ei hun ennyn diddordeb mawr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac am fod gan y cynhyrchiad griw ffilmio mor fawr a’i bod wedi denu nifer o ymwelwyr i’r ardal, roedd yr economi leol ar ei hennill hefyd.  Pan gaiff y ffilm ei rhyddhau, rydym yn gobeithio y bydd yn cynyddu apêl y Parc i dwristiaid ac y bydd pobl yn awyddus i ddod i weld ein tirweddau godidog."

Cafodd y ffilm ei ffilmio ar hyd a lled y DU ac er i’r rhan fwyaf o’r criw ddod o’r tu allan i Gymru, cyflogwyd tua 47 o bobl leol i weithio ar y cynhyrchiad fel stiwardiaid a rhedwyr.  Yr arian mwyaf a wariwyd oedd ar lety i’r criw ffilmio ac yn ystod y cyfnod ffilmio, roedd tua 500 o’r criw yn aros yn yr ardal.

Y mis nesaf, mae Comisiwn Sgrîn Cymru’n bwriadu cynnwys Map Ffilmiau (Movie Map) newydd ar eu gwefan a bydd Traeth Marloes a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymddangos ar y Map.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Twristiaeth 28 Mai 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i