Rhoddwyd y wobr am "Ymgyrch Integredig y Flwyddyn – hyd at £1 filiwn" i ymgyrch deledu, ar-lein a phosteri a oedd yn dangos dyn cyffredin sydd wedi hen ddiflasu ar ei wyliau’n dod i Gymru am wyliau go iawn.
Dywedodd y beirniaid fod yr ymgyrch buddugol yn cynnwys "yr hyn rydym yn chwilio amdano yn y Seremoni Wobrwyo hon, sef cydbwysedd rhwng dychymyg, arbenigedd marchnata a mantais fasnachol". Roedd yr ymgyrch yn cyrraedd 34 miliwn o oedolion yn y DU a denodd 14,000 o ddilynwyr i gymuned Facebook Croeso Cymru. Cynhyrchwyd 196 o glipiau fideo ac roedd mwy na 3 miliwn o drigolion Llundain wedi gweld y diweddariad dyddiol i’r ymgyrch dros gyfnod o wythnos.
Dywedodd Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Edwina Hart,
"Rwy’n llongyfarch y tîm am ennill y wobr hon y mae’n ei llawn haeddu. Roedd dros 6.2 miliwn o bobl o bob cwr o’r byd wedi dewis Cymru am eu gwyliau yn 2010 ac mae’r ymgyrch hon yn dangos y rheswm am hynny."
Dywedodd Jonathan Jones o Croeso Cymru,
"Yn ystod haf 2011 mentron ni ar ymgyrch bwysig newydd i ddod o hyd i ddyn cyffredin a oedd wedi hen ddiflasu ar ei wyliau arferol a dod ag ef i Gymru. Piers Bramhall oedd y dyn cyffredin hwnnw. Ymddangoson ni ar ei stepen drws yn Llundain yn ddirybudd, a chyda help Côr Meibion o Gymru a Joanna Page o Gavin and Stacey, fe lwyddon ni i’w gael i dderbyn ein gwahoddiad i fentro ar wyliau gwahanol – gwyliau go iawn.
"Bedair wythnos yn ddiweddarach, cychwynnodd ar ei daith, gyda chwmni criw ffilmio, gan bostio ar Facebook a Twitter drwy gydol ei daith. Fel VIP, aeth Piers ar grwydr trwy Gymru a chafodd wneud pob math o bethau rhyfedd a rhyfeddol ar hyd y ffordd, gan gynnwys blasu wisgi, gwersi syrffio, beicio mynydd, chwarae golff ar gwrs Cwpan Ryder 2010, gwersylla mewn pabell "wigwam" a llawer mwy.
"Mae ymateb y cyhoedd i’r ymgyrch hon yn ysgubol, ac rydyn ni’n hapus dros ben bod y beirniaid wedi mwynhau’r ymgyrch."
Y cwmnïau eraill a enwebwyd yn yr un categori oedd Royal Caribbean International Cruises, cwmni hedfan Star Alliance sy’n cynnwys cwmnïau hedfan United, SAS, Air New Zealand a Lufthansa a Visit Manchester.











