Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog Busnes yn mynd ar daith o amgylch Sir Benfro i weld busnesau sy’n barod i ehangu

Mae Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, wedi dechrau Wythnos Dwristiaeth Cymru drwy ymweld â thri busnes yn Sir Benfro i’w llongyfarch ar lwyddo i roi hwb i’r economi leol a chreu swyddi i bobl leol.
Dydd Llun 27 Chwefror 2012

Aeth y Gweinidog ar daith o amgylch Sir Benfro i gwrdd â pherchnogion Parc Cenedlaethol Bluestone a Gwesty’r Grove yn Arberth i glywed am eu cynlluniau i ehangu mewn ymateb i’r galw.

 

Mae Bluestone yn cyflogi 450 o staff – 99 y cant ohonynt yn dod o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion – ac mae gan y Grove dîm o ddau ddeg wyth o bobl leol yn gweithio yn y gwesty. Y llynedd fe adeiladwyd 60 o gabanau newydd yn Bluestone gan gwmni o Abertawe, a thrafododd y Gweinidog faterion pwysig gyda William McNamara, prif swyddog gweithredol y cwmni, er enghraifft gweithio gyda chyflenwyr lleol a chynlluniau i ehangu yn y dyfodol.

 

Dywedodd dros 44 y cant o’r bobl a ymwelodd â’r safle yn ystod 2011 nad oedden nhw wedi bod i Sir Benfro o’r blaen. Y llynedd gwelwyd cynnydd o 27 y cant yn niferoedd y gwesteion o gymharu â 2010. Arhosodd 65,393 o bobl ar y safle a byddai llawer hefyd wedi ymweld ag atyniadau lleol ac wedi bwyta ac yfed y tu allan i’r Parc.

 

Dywedodd William McNamara:

 

“Mae ein twf yn 2011 yn dangos sut gall busnes dyfu a llwyddo yn yr hinsawdd economaidd bresennol yng Nghymru, ac rydyn ni’n hyrwyddo Sir Benfro a Gorllewin Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr o bob rhan o Brydain.

 

“Mae bod yn fusnes cynaliadwy sy’n cefnogi busnesau a chymunedau lleol, ac sy’n cydweithio â nhw, yn bwysig iawn i ni ac yn rhan annatod o’n model busnes.”

Ymwelodd y Gweinidog hefyd â chanolfan fiodanwydd y safle sy’n defnyddio cnydau lleol i gynhesu ei barc dŵr Blue Lagoon a’i Ganolfan Antur dan do, a thechnoleg solar i gynhesu dŵr rhai o’r cabanau, cyn mynd i Westy’r Grove yn Arberth i weld eu cynlluniau i ehangu, diolch yn rhannol i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Neil Kedward, y perchennog:

“Bydd yr wyth ystafell wely newydd, y gegin a’r dderbynfa newydd, y tŷ bwyta, y lolfa a’r bar ar y llawr daear yn creu swyddi da, gan gynnwys rolau rheoli. Yn naturiol, mae hinsawdd ariannol fel hon yn cyfyngu arnon ni, ac felly mae’r arian a gawson ni yn hollbwysig er mwyn gallu gwireddu ein gweledigaeth. 

Fe aeth y Gweinidog hefyd i Ganolfan Cychod Hedfan Ymddiriedolaeth Sunderland i drafod niferoedd ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf a chynlluniau i greu canolfan dreftadaeth sy’n adrodd hanes Doc Penfro. 

 

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes:

 

“Mae wedi bod yn galondid heddiw cael gweld busnesau yn tyfu ac yn ffynnu yn yr hinsawdd hon – drwy ran-gyllido’r ehangu hwn, rydyn ni fel Llywodraeth Cymru yn gallu gofyn i fanciau hefyd gefnogi’r cynlluniau. O ganlyniad, rydyn ni’n creu swyddi i bobl leol ac yn dod â pheth o’r £9 miliwn y diwrnod mae twristiaid yn ei wario yng Nghymru i Sir Benfro.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Twristiaeth

Gwefannau

Croeso Cymru

Tagiau

Twristiaeth 27 Chwefror 2012 Yr economi Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i