Bydd y cylchgrawn sy'n rhoi barn selebs ac awduron teithio enwog am yr hyn sy'n gwneud Cymru yn lle gwych i ymweld ag ef yn barod i'w ddosbarthu yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr.
Yn ystod ei antur ddiweddaraf, ymwelodd un o gogyddion enwocaf Prydain, Jamie Oliver, â De Cymru ac roedd yn synnu at beth welodd. Dywedodd:
"Yr hyn sydd wir yn fy nharo i am Gymru yw'r cyfoeth o ieithoedd, diwylliannau a syniadau gwahanol sydd wedi goroesi am dros 200 mlynedd. A'r diwydiannau glo a metel sy'n gyfrifol am hyn oll. Caerdydd oedd lleoliad y fargen fusnes miliwn o bunnoedd gyntaf erioed a denodd arian o'r fath bobl ledled y byd i ymgartrefu yng Nghymru, fel gwenyn at fêl."
Roedd yn bleser mawr ganddo weld dylanwad yr Eidal ar Gymoedd y De. Cafodd fynd i Verdi's yn y Mwmbwls, edrych ar ddylanwad Yemen ar goginio yng Nghaerdydd a pharatoi barbeciw 'surf and turf' ym Mae Oxwich.
Tra oedd yng Ngŵyr, dywedodd:
"Pan fo'r haul yn disgleirio yng Nghymru mae'n brydferth. Mae pobl yn gwario llawer o arian yn mynd i Sbaen, ond pan allwch chi chwarae ar draethau Penrhyn Gŵyr pam byddech chi eisiau mynd i rywle arall?"
Mae Kate Humble, cyflwynydd Springwatch y BBC, sy'n byw yn Sir Fynwy, wedi dewis rhai o'i hoff leoedd i ymweld â nhw, gan gynnwys Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, Ynys Môn, Gŵyr a gwarchodfa natur Ynyshir ger Machynlleth.
Yn 2012, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i agor llwybr arbennig ar hyd ei harfordir cyfan. Mae'r awdur teithio David Atkinson yn mynd i wisgo'i esgidiau cerdded i ddilyn tair rhan o'r llwybr a fydd yn agor ym mis Mai.
Ar ôl i'r Lonely Planet nodi mai'r ardal hon fydd yr ardal orau ar y ddaear i ymweld â hi yn 2012, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
"Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr i'n harfordir ysblennydd gan roi hwb mawr i economi Cymru. Bydd hefyd yn annog ymwelwyr a phobl leol i fentro allan a mwynhau arfordir prydferth Cymru."
Yn 2012, daw'r Gêmau Olympaidd i Lundain hefyd. Mae athletwyr Olympaidd gwych wedi dod o Gymru, efallai am fod natur wedi creu cyfleusterau hyfforddi heb eu hail yng Nghymru. Mae Wales View yn edrych ar rai o hoff leoedd ein hathletwyr Olympaidd. Does dim rhaid i chi wisgo esgidiau rhedeg i'w mwynhau nhw eich hunan.











