Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyllid CDG i roi hwb i rasys harnais

Mae rasys harnais a throtian yn atyniad poblogaidd sy’n helpu i gynnal y diwydiant twristiaeth mewn rhannau o Gymru, ac mae ar fin cael hwb go sylweddol, diolch i gyllid o Ewrop.
Dydd Mercher 21 Rhagfyr 2011

Mae pedwar clwb rasio harnais Ceredigion wedi dod at ei gilydd i ffurfio cwmni newydd o’r enw Ceredrotian, ac mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau cyllid o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru i ddatblygu’r chwaraeon hyn yn yr ardal. Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Cynllun Datblygu Gwledig.

Bydd y pedwar clwb sydd wedi ffurfio Ceredrotian yn parhau i fod yn gyfrifol am drefnu eu rasys eu hunain, ond byddant yn cydweithio â’i gilydd i farchnata’r chwaraeon ledled y Sir a thu hwnt. Mae’r cyllid a sicrhawyd yn werth £113,000 dros ddwy flynedd, gyda’r pedwar clwb yn cyfrannu 25%, a bydd cyfran o’r arian yn cael ei ddefnyddio i gyflogi Swyddog Gweithredol Marchnata i weithio ar y cyd ag Adran Dwristiaeth Ceredigion.

Cynhelir dau gyfarfod rasys tri diwrnod enwog yng Ngheredigion bob blwyddyn eisoes, yn Aberystwyth a Thregaron. Mae’r rhain yn denu miloedd o bobl o bob rhan o’r DU ac yn bwysig iawn i’r economi dwristiaeth leol. Bwriad Ceredrotian nawr yw denu mwy byth i’r rasys drwy dargedu eu marchnata at safleoedd carafannau a chanolfannau gwyliau.

Dywedodd Huw Evans, Cyfarwyddwr Cyllid Ceredrotian:

"Mae llawer o westai bach a mawr ar draws y fro dan eu sang yn ystod y rasys mawr; mae’r arian yn llifo fel dŵr i dai bwyta a thafarndai’r ardal ac mae’r ceffylau’n llenwi pob stabl bron.

"Rydym yn awyddus i ehangu ar y llwyddiant hwn. Mae gwylio rasys harnais yn hwyl i’r teulu cyfan, a gall fod yn ddiwrnod allan heb ei ail. Mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau dod yn ôl dros ar ôl tro i wylio rasys harnais, felly rydym yn gobeithio gallu denu torfeydd mawr i fwynhau’r profiad.

"Rydym yn teimlo hefyd bod potensial gwirioneddol i ddenu pobl ifanc i gystadlu mewn rasys harnais, ac rydym yn gobeithio sefydlu canolfan hyfforddiant lle byddai newydd-ddyfodiaid yn cael magu ymdeimlad go iawn am y gamp drwy eistedd ar y trap wrth ochr gyrrwr profiadol."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies:

"Dyma enghraifft wych o’r ffordd y mae cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn helpu i feithrin cymunedau cryf yn lleol a chefnogi economi wledig Cymru. Mae digwyddiadau ym myd chwaraeon fel rasys harnais yn bwysig iawn ar gyfer dod â’r gymuned leol at ai gilydd a chyfrannu at hunaniaeth ddiwylliannol yr ardal, ac mae hynny yn ei dro yn denu ymwelwyr, felly rwy’n falch o gael gweld prosiect mor arloesol yn derbyn y cyllid hwn. "

Bydd y Swyddog Gweithredol Marchnata newydd yn gallu ymchwilio i’r posibilrwydd o gael hyd i leoliadau newydd i gynnal rasys, gan gynnwyd trac pob tywydd; datblygu gwefan i hyrwyddo’r rasys ledled Cymru a denu noddwyr a pherchnogion newydd.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun datblygu gwledig Cymru

Tagiau

Twristiaeth 21 Rhagfyr 2011 Yr economi Ffermio a chefn gwlad Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i