Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Blogwyr Rhyngwladol yn wynebu Her Fach Cymru

Mae 17 o flogwyr teithio, o America, Ffrainc, Sbaen, Gwlad Belg ac Iwerddon yn dod i Gymru wythnos nesaf i wynebu Her Fach Cymru 2011.
Dydd Gwener 23 Medi 2011

Croeso Cymru sy’n trefnu’r Her fel ffordd i siarad yn uniongyrchol â phobl am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i ymwelwyr ac i dargedu’r cyfryngau cymdeithasol sydd â’r pŵer i ddylanwadu ar gynulleidfa ac i ysbrydoli teithwyr i ddod i Gymru.

Bydd y grŵp yn cyrraedd ddydd Sul, 25 Medi gan dreulio’r noson gyntaf yn Nant Gwrtheyrn, Llŷn lle caiff y blogwyr wers Gymraeg, adloniant ar ffurf twmpath traddodiadol a bwyd lleol.

Byddwn yn rhannu’r grŵp yn dimau llai i ateb yr her o ddysgu mwy am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran bwyd, diwylliant ac antur.  Yn ystod eu trip, bydd y timau’n cymryd rhan mewn heriau gwahanol, gan gynnwys ffotograffiaeth, ysgrifennu a thasgau ymarferol i ysbrydoli eu hochr creadigol.  Bydd y timau’n ailymgynnull ddydd Gwener 30 Medi yng Nghaerdydd lle byddan nhw’n rhannu’u profiadau a lle caiff y tîm buddugol ei wobrwyo.

Bydd y rheini sy’n mwynhau cael gwefr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel arforgampau yn y Gorllewin, rafftio ar ddŵr gwyn yn y De a beicio mynydd yn y Gogledd.  Bydd y rheini sy’n dwlu ar ddiwylliant yn cael gwneud a blasu cwrw, gyrru trên stêm ac ymuno a chanu gyda chôr meibion.  A bydd y rheini sy’n cael blas ar fwyd yn cael mynd i arddangosfa goginio ar Ynys Môn, hela wystrys ar y Fenai a gwneud siocled yn y Canolbarth.

Meddai Jonathan Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata, Croeso Cymru:

”Rwy’n falch iawn o gael croesawu’r grŵp o flogwyr i Gymru ac yn gobeithio y cân nhw wythnos wrth eu boddau’n gweld y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.  Dyma ffordd newydd o ddylanwadu’n uniongyrchol ar y blogwyr sy’n effeithio ar gynlluniau teithio pobl eraill.  Rwy’n gobeithio y bydd eu profiadau y byddan nhw’n eu hadrodd ar eu blogiau yn denu pobl i ystyried Cymru fel y lle i fynd iddo am eu gwyliau nesaf.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Twristiaeth

Gwefannau

Croeso Cymru

Tagiau

Twristiaeth 23 Medi 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i