Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gŵyl Fwyd y Fenni yn dychwelyd am flwyddyn arall

Mae prif ŵyl fwyd Cymru, sef Gŵyl Fwyd y Fenni, yn cael ei chynnal y penwythnos hwn (Medi 17 ac 18), a bydd yno ddigonedd o gynnyrch gwych a digwyddiadau difyr i ddenu’r ymwelwyr.
Dydd Gwener 16 Medi 2011

Mae’r ŵyl flynyddol hon, sy’n cael £52,200 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi’i disgrifio fel pinacl y gwyliau bwyd, a bydd miloedd yn heidio i’r Fenni i gael blas ar yr arlwy.

Ym mhlith yr uchafbwyntiau eleni, bydd dosbarthiadau meistr gan y cogydd o Gymro, Bryn Williams, sy’n cadw bwyty Odette’s yn Primrose Hill, Llundain; Angela Hartnett o Murano a James Sommerin o fwyty’r Crown ym mhentref Whitebrook a’r Crown yn y Celtic Manor, yn ogystal â chogyddion eraill o bedwar ban byd.

Gall ymwelwyr ddilyn trywydd Cymru: y Gwir Flas i gael hyd i’r cynnyrch lleol sydd wedi ennill gwobrau rhagoriaeth Llywodraeth Cymru. Bydd 32 o gwmnïau Cymru: y Gwir Flas yn arddangos yn y Fenni eleni.

Mewn digwyddiad arbennig arall yn yr ŵyl, caiff bwydgarwyr hel eu boliau â danteithion tai bwyta o bob rhan o Gymru.

Bydd yno Academi Fwyd i Blant hefyd; sesiynau blasu â thiwtoriaid; trafodaethau ynghylch pynciau amrywiol, fel diet a maetheg, hela tryffls a thyfu eich bwyd eich hunan; a theithiau cerdded ar themâu gastronomaidd. I ychwanegu at yr hwyl, bydd perfformwyr stryd, adloniant ger y castell a cherddoriaeth fyw i bawb ei fwynhau.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Gŵyl Fwyd y Fenni

Tagiau

Twristiaeth 16 Medi 2011 Topic news Y Canolbarth Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i