Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y mae Piers Bramhall wedi cyrraedd yng Nghymru

Ar ôl cael ei daflu i amlygrwydd fel rhan o ymgyrch farchnata newydd Croeso Cymru y mis diwethaf, y mae Piers Bramhall, heddiw wedi cyrraedd Cymru am wythnos o wyliau.
Dydd Llun 05 Medi 2011
Ym mis Awst, lansiodd Croeso Cymru ymgyrch i ddod â Piers Bramhall i Gymru
Ym mis Awst, lansiodd Croeso Cymru ymgyrch i ddod â Piers Bramhall i Gymru

Ym mis Awst, lansiodd Croeso Cymru ymgyrch i ddod â Piers Bramhall i Gymru a galw ar bobl Cymru I’w wahodd,  i ddweud wrtho am ble y gall ddod o hyd i'r profiadau gorau yng Nghymru, beth i'w weld a'i wneud a ble i fwyta a pham.  Y  mae 160 gwahoddiadau wedi cael eu gadael ar ei gyfer ar www.facebook.com/visitwales.

Mae Piers wedi cyrraedd yng Nghymru heddiw i dderbyn yr her o gael gwyliau gwahanol i’w wyliau 'hedfan a hamddena' arferol.  Bydd yr wythnos yn profi i fod yn agoriad llygad i Piers gan nad yw erioed wedi mentro tu allan i Gaerdydd ar deithiau blaenorol i Gymru. Bydd yn cael ei groesawu yn y Tafarn Blue Anchor, Aberddawan gan Seren Rygbi Gareth Thomas cyn hedfan i Ynys Môn i ddechrau ei antur.

Bydd yn cael digon o gyfle ar gyfer rhuthr adrenalin gyda gwers hwylio ym Mhlas Menai a syrffio ar y Gŵyr. Bydd digon o amser i flasu cynnyrch gorau Cymru o Wisgi Penderyn i hufen iâ Joe's. Bydd yn cael cyfle i chwarae ar y Cwrs 2010 yn y Celtic Manor a hyd yn oed yn cael gwers ganu opera gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Os nad yw hynny'n ddigon, y mae bar Gwdihw yng Nghaerdydd hefyd  trefnu gŵyl 'Pierstock' er  anrhydedd a fydd yn arddangosiad o fandiau Cymraeg.

Bydd ei wyliau yn cael ei ffilmio a bydd yn sail ar gyfer hysbyseb deledu newydd Croeso Cymru a fydd yn lansio ym mis Ionawr.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Croeso Cymru

Tagiau

Twristiaeth 05 Medi 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i