Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ffyrdd gwyrdd o deithio o amglych Cymru yr haf hwn

Os ydych chi'n bwriadu treulio'ch gwyliau yng Nghymru dros y misoedd nesaf, dyma un ffordd i sicrhau eich bod yn lleihau'ch ôl troed carbon ac ar yr un pryd yn gweld mwy o'r ardal leol.
Dydd Mercher 26 Awst 2009
Gwasanaeth bws arfordir Sir Benfro

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu nifer o gynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru sy'n cynnig dolen hanfodol i ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf gan sicrhau bod llai o geir yn rhai o'n cyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd.

Lonydd Glas Sir Benfro

Lonydd Glas Sir Benfro yw enw'r fenter sydd wedi bod yn gweithio ers dros wyth mlynedd i annog pobl leol ac ymwelwyr, waeth beth fo eu gallu, i deithio mewn modd cynaliadwy fel cerdded, beicio, ar y bws neu'r trên wrth iddynt ymweld ag arfordir â chefn gwlad Sir Benfro.  

Mae gwasanaethau bws yr arfordir yn rhedeg i bob gyfeiriad ar hyd arfordir y Parc Cenedlaethol, gan sicrhau ei bod yn bosibl mynd i bob rhan o 186 milltir (299cm ) y Llwybr Arfordir Cenedlaethol, o Landudoch i Amroth, ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r bysys, sy'n rhedeg 7 diwrnod yr wythnos o fis Mai i fis Medi yn gyfleus iawn gan fod pobl ar droed yn cael stopio'r bws unrhywle ar y ffordd a mynd â'u cŵn, byrddau syrffio a'u bygis arno. Mae'r bysys hyn hefyd yn gyfleus i ymwelwyr sydd am gerdded llwybr yr arfordir i un cyfeiriad heb orfod mynd yn eu hôl, ac felly'n fantais dros y car.

Er mwyn gwella'r gwasanaeth ymhellach ar gyfer 2009, mae pedwar o fysys newydd sy'n hawdd i bawb fynd arnynt wedi'u prynu yn lle pedwar o hen fysys arfordir Sir Benfro. Bydd y rhain i gyd yn rhedeg ar olew llysiau sy'n dod o Sir Benfro ac yn cael ei ailgylchu yno. Menter arall yw bws dŵr Havenlink. Cafodd hwn ei dreialu yn 2008 a'i ymestyn i 2009. Mae'r cwch yn croesi hafan Aberdaugleddau gan gysylltu â rhwydwaith bysys yr arfordir. Mae'r bysys dŵr hyn hefyd yn rhedeg ar olew llysiau wedi'i ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gwefan Lonydd Glas Sir Benfro 

Bysiau Sherpa'r Wyddfa

Hefyd cewch anghofio am yrru a chanolbwyntio ar yr olygfa wrth deithio trwy Eryri ar fysys Sherpa'r Wyddfa. Ar fysys y Sherpa, cewch ymlacio a mwynhau edrych ar y golygfeydd, y trefi a'r pentrefi. O brynu tocyn dydd y Sherpa, cewch ddefnyddio'r rhwydwaith drwy'r dydd i deithio fan hyn a fan draw a disgyn o'r bws bob hyn a hyn yn ôl eich dymuniad. Mae'r tocynnau hyn yn ddilys rhwng Bethesda / Llanberis / Llanrwst / Porthmadog a Chaernarfon. Cewch brynu'ch tocyn £4.00 (£2.00 i blant) ar y bws ei hun. Mae'r Sherpa yn fenter sy'n cael ei darparu gan Agoriad Gwyrdd Eryri, sef partneriaeth sy'n canolbwyntio ar gynnal rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy ym Mharc Cenedlaethol Eryri.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i gwefan Goriad Gwyrdd Eryri 

Gower Explorer

Mae'r Gower Explorer yn wasanaeth bysys i bobl leol a hefyd yn wasanaeth poblogaidd i ymwelwyr. Mae'r un bysys sy'n mynd â phobl leol ar daith siopa neu fusnes i Abertawe hefyd yn cludo ymwelwyr o ganol dinas Abertawe a'i maestrefi i'r traethau, i'r llwybrau cerdded, i'r atyniadau treftadaeth neu i'r tafarndai neu fwytai lleol i gael pryd da o fwyd. I eraill y daith ei hun trwy brydferthwch Penrhyn Gŵyr yw uchafbwynt y dydd. Cewch brynu tocyn dydd yn rhad gan yrrwr y bws am gyn lleied â £3.70 am Day Explorer sy'n cwmpasu bron y cyfan o rwydwaith Gower AONB Explorer yn ogystal â theithiau lleol i ganol Abertawe a'i maestrefi ac yn ôl.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gwefan Countrygoer 

Bws y Bannau

Mae Bws y Bannau yn rhwydwaith o fysys sydd wedi'u comisiynu'n arbennig i redeg o'r trefi a dinasoedd mawr i Aberhonddu yn y bore. Mae'r bysys yn dilyn sawl trywydd gwahanol o gwmpas y Parc Cenedlaethol cyn mynd adref trwy Aberhonddu ar ddiwedd y dydd. Os ydych am fynd ar daith i Fannau Brycheiniog neu eisoes wedi cyrraedd, mae Bws y Bannau'n ddelfrydol ar gyfer diwrnod allan heb na char na ffwdan. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg bob dydd Sul a Gŵyl y Banc rhwng 24 Mai a 27 Medi 2009. Mae Bws y Bannau'n dathlu'i benblwydd yn 10 oed eleni! Croeso i chi ymuno â'r parti! Mae caffis, tai te, tafarndai ac atyniadau ar hyd y daith yn cynnig gostyngiadau arbennig i deithwyr. Gofynnwch am daflen ar y bws. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gwefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

26 Awst 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trafnidiaeth Gyhoeddus Newid hinsawdd

Tagiau

Twristiaeth 26 Awst 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Gorffennaf 2012
Ll M M I G S S
<< Meh   Aws >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 31          
I'n dilyn ni trowch i