Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Newyddiadurwyr teithio o Ganada yn teithio i Gymru i gynhadledd flynyddol 2010

Mae Croeso Cymru, cangen dwristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi bod yn allweddol i ddenu cynhadledd flynyddol Cymdeithas Newyddiadurwyr Teithio o Ganada (TMAC) i Gymru o 7 – 12 Mawrth 2010.
Dydd Iau 16 Gorffennaf 2009
baner Cymraeg

Dyma’r tro cyntaf i’r gynhadledd gael ei chynnal y tu allan i Ganada.

Gwahoddwyd Croeso Cymru i wneud cynnig i gynnal y gynhadledd yng Nghymru. Roedd tri lle posib ar y rhestr fer, ac ar ôl dau ymweliad archwilio, cyhoeddwyd mai Cymru oedd eu dewis i gynnal y gynhadledd. Mae’r cofrestru ar-lein i aelodau ar y we yr wythnos hon.    

TMAC yw’r brif gymdeithas ar gyfer newyddiadurwyr teithio yng Nghanada. Mae’n  dod â newyddiadurwyr teithio ac aelodau o’r diwydiant twristiaeth ynghyd i feithrin rhagoriaeth, i gynnal safonau moesegol, ac i hyrwyddo datblygiad proffesiynol.   Fe’i sefydlwyd ym 1994, ac mae iddi 450 o aelodau,

Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Hélèna Katz:

"Mae Cymru yn ddewis gwych ar gyfer cynnal cynhadledd gyntaf dramor y sefydliad.  O gestyll i fwyd, mae Cymru yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer straeon i ysgrifenwyr teithio yn ogystal â golygfeydd godidog.  Mae ein haelodau yn edrych ymlaen at ymweld â Chymru yn 2010 a chael ysbrydoliaeth o’r wlad oedd yn gartref i Dylan Thomas.”

Meddai Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth:

“Rwyf wrth fy modd fod Cymru wedi’i dewis fel lleoliad ar gyfer y gynhadledd hon yn 2010. Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal y tu allan i Ganada ac mae’n gamp fawr i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at roi croeso Cymreig twymgalon i’r ymwelwyr o Ganada y gwanwyn nesaf ac rwy’n siŵr y bydd Cymru’n elwa’n fawr o gael sylw newyddiadurwyr teithio Canada am flynyddoedd i ddod.”

Bydd Croeso Cymru’n gweithio gyda Chyngor Sir Caerdydd, Cardiff & Co a Visit Britain i sicrhau bod y gynhadledd yn llwyddiant i Gymru. Gallai gwerth y sylw hwn i Gymru o’r gynhadledd olygu gwerth oddeutu £1.5 miliwn o hysbysebu.

Cynhelir y brif gynhadledd yng Nghaerdydd. Bydd aelodau’n dechrau cyrraedd Cymru o 3 Mawrth a byddant yn aros yn y wlad tan 15 Mawrth ac yn crwydro gweddill Cymru ar ymweliadau a drefnwyd cyn ac ar ôl y gynhadledd.

Dewiswyd Cymru hefyd fel lleoliad ar gyfer cynhadledd Cysylltiadau Cyhoeddus Visit Britain yn 2010 a gynhelir yn ystod mis Tachwedd. Bydd cynrychiolwyr Visit Britain o wledydd Ewrop ac o bell yn dod i Gymru am 6 diwrnod.

16 July 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Twristiaeth Diwylliant a chwaraeon

Tagiau

Twristiaeth 16 Gorffennaf 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i