Mae'r ymgyrch £1m yn apelio i natur annibynnol ymwelwyr â Chymru, gan alw arnynt i edrych y tu hwnt i'r llyfrau twristiaid a theithio yn ôl eu chwilfrydedd. Bydd hyn yn cynnwys y gorau o Gymru yn yr hydref, fel bywyd gwyllt, chwaraeon dŵr, cerdded, bwyd a'r celfyddydau.
Mae'r ymgyrch, a gaiff ei lansio ar ddechrau mis Medi a'i chynnal drwy gydol mis Hydref, yn bedair wythnos o hysbysebion ar sianelau daearol a digidol, ynghyd â thaflenni, e-bost, hysbysebu yn y wasg ac ar-lein er mwyn cael 80,000 o geisiadau am lyfrynnau a 100,000 o ymholiadau ar-lein i Croeso Cymru a'i bartneriaid.
Meddai Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
Rydym yn gobeithio y gall ymgyrch yr hydref helpu i leddfu effeithiau ail haf hynod o lawiog. Er na fu tymor yr haf gynddrwg ag a ofnwyd ar un adeg, dangosodd yr arolwg i 43% o weithwyr ddweud eu bod wedi cael llai o ymwelwyr neu westeion ac roedd 74% o’r rhain yn rhoi’r bai am y gostyngiad ar y tywydd gwael.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb i alwadau gan y diwydiant am fwy o fuddsoddi mewn marchnata yn y flwyddyn sy’n dod, a bydd ymgyrch hysbysebu Croeso Cymru yn yr hydref a menter y Flwyddyn Newydd yn hollbwysig i’r gwaith o gynnal a datblygu’r diwydiant yn y deuddeg mis nesaf.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda chorff y diwydiant, sef Cynghrair Twristiaeth Cymru, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i alluogi’r diwydiant i ymateb yn y modd mwyaf effeithiol i amodau’r farchnad ac i gynnal a gwella ansawdd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig a delwedd Cymru yn ei chyfanrwydd.
Mae erthyglau sy’n canmol Cymru fel cyrchfan wyliau yn ymddangos o hyd yng nghyfryngau’r DU, a chafwyd y sylw canlynol mewn erthygl yn yr Observer yn ddiweddar: “Efallai ei bod hi wedi bwrw glaw drwy’r haf bron, ond ni all unrhyw beth foddi asbri Cymru i’w hailddyfeisio ei hun.
Hyfryd o beth hefyd yw gweld cymaint o erthyglau cadarnhaol yn ymddangos yn wasg. Mae’r erthyglau hyn yn gwneud llawer i ddangos y bydd pobl yn teithio i Gymru er mwyn cael profiad heb ei ail yn cael amser gwych – boed glaw neu hindda.
Meddai Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Julian Burrell:
Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac o ganlyniad gallwn fanteisio ar arian marchnata ychwanegol ar gyfer ymgyrch y tymor newydd sy’n dechrau ym mis Ionawr. Fodd bynnag, mae’n bwysicach nag erioed i bawb sy’n gweithio ym maes twristiaeth yng Nghymru gydweithio i wneud y gorau o fanteision yr ymgyrch hon er mwyn dadwneud effaith yr amodau economaidd a’r hinsawdd.
4 Medi 2008











