Yn Uwchgynhadledd y Ddaear Rio+20 ar ddatblygu cynaliadwy'r wythnos hon, gwelwyd cynrychiolwyr dros 100 o wledydd yn ogystal â chyrff anllywodraethol a busnesau o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i benderfynu sut i daclo’r problemau amgylcheddol cynyddol. Cytunwyd y dylai’r testun terfynol gynnwys cydnabyddiaeth gref y bydd llawer o’r gwaith yn cael ei arwain gan lywodraethau rhanbarthol ac is-genedlaethol.
Ymysg uchafbwyntiau’r testun mae cytundeb i lunio nodau datblygu cynaliadwy, cydnabyddiaeth y gall economi werdd leihau tlodi, a chydnabyddiaeth bod angen defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy.
Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i ddweud wrth arweinwyr ledled y byd am waith blaengar Cymru i osod sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Treuliodd y Gweinidog amser yno yn hyrwyddo ymdrechion Llywodraeth Cymru i osod datblygu cynaliadwy wrth galon pob elfen o’i gwaith; codi ymwybyddiaeth o swyddogaeth bwysig llywodraethau rhanbarthol yn yr ymrwymiad rhyngwladol i gynaliadwyedd, a chasglu barn ar gynlluniau Cymru i gyflwyno Bil Datblygu Cynaliadwy i greu llefydd cynaliadwy i fyw a gweithio.
Bu’n annerch Uwchgynhadledd Rhanbarthau a Gwladwriaethau Ffederal y Byd dan nawdd Llywodraethwr Talaith Rio, gan gael goleuni pellach ar wahanol ffyrdd o weithio ym maes Datblygu Cynaliadwy.
Dywedodd:
“Roedd yn ddefnyddiol iawn cael cwrdd â chynrychiolwyr llywodraethau rhanbarthol eraill a dysgu oddi wrthynt – er mwyn i ni sicrhau bod ein deddfwriaeth Datblygu Cynaliadwy mor gryf ac effeithiol ag sy’n bosibl.”
Hefyd galwodd y Gweinidog ar arweinwyr i gryfhau’r Datganiad. O ystyried graddfa’r broblem, roedd wedi gobeithio y byddai’r gwledydd yn ymrwymo i gamau pendant a fyddai’n dangos ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau newid.
Dywedodd:
“Mae’n amlwg nawr bod rhaid i lywodraethau rhanbarthol arwain y ffordd a gosod esiampl o ran sut i greu llefydd ac arferion cynaliadwy. Er gwaetha diffyg uchelgais y testun, rwy’n falch iawn bod Cymru’n cael cyfle nawr i arwain.
"Rwy’ wedi rhyfeddu gyda’r gefnogaeth i’n hargymhellion blaengar ar ddeddfwriaeth Datblygu Cynaliadwy yn ogystal â’n mesurau eraill, fel ein rhaglen arbed ynni, Arbed, sydd wedi gweld £66 miliwn yn cael ei fuddsoddi i hybu’r economi werdd ac arbed ynni mewn 7500 o gartrefi. Ar ben hynny mae ail gam Arbed, a lansiwyd yn ddiweddar, lle bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £45m i leihau biliau tanwydd 4800 o gartrefi mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.”
Ychwanegodd:
"Ar hyn o bryd mae’r byd ar drywydd anghynaliadwy, a’r cyfle i weithredu’n pylu. Mae’n amlwg mai’r ffordd gyflymaf i symud ymlaen yw ar lefel ranbarthol, ac mai llywodraethau rhanbarthol yw gwir arweinwyr cynaliadwyedd."











