Mae Llywodraeth Cymru’n ceisio barn am yr argymhellion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy a fyddai’n gosod rheidrwydd cyfreithiol ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod eu penderfyniadau yn cael eu hysgogi gan egwyddorion datblygu cynaliadwy. Byddai’r argymhellion hefyd yn gofyn i sefydliadau adrodd yn flynyddol ar eu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd honno.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy’n dweud yn aml bod Cynaliadwyedd yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod ein Llywodraeth, wrth wynebu dewisiadau anodd, yn mynd am yr opsiwn gorau yn y tymor hir i bobl Cymru.
“Mae hyn yn golygu pethau fel buddsoddi mewn addysg gynnar o safon uchel nawr er mwyn osgoi caledi cymdeithasol yn nes ymlaen; neu gynorthwyo cartrefi a busnesau Cymru i arbed ynni er mwyn arbed arian a pharatoi ar gyfer prisiau ynni uwch yn y dyfodol.
“Drwy gymryd yr agwedd hon, rydyn ni’n credu y byddwn yn gwella safon bywyd a lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru. Bydd hyn yn ei dro yn golygu pobl iach, cynhyrchiol, cymunedau bywiog, cynhwysol, amgylchedd amrywiol sy’n cynnal bywyd gwyllt ac economi flaengar, arloesol a chadarn.
“Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod nad oes modd i ni wneud hyn wrth ein hunain. Pwrpas yr argymhellion yw sicrhau bod pob sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ymrwymo’n gyfreithiol i wneud penderfyniadau ar sail egwyddorion cynaliadwyedd clir. Rydyn ni’n credu y bydd y dull hwn yn arwain at fanteision tymor hir.
“Er hynny rydyn ni hefyd yn sylweddoli bod angen osgoi biwrocratiaeth a chostau diangen ac mae’r ymgynghoriad yn gofyn a oes unrhyw ofynion y gallwn eu dileu yng ngoleuni’r ddyletswydd cynaliadwyedd sy’n cael ei chynnig.”
Dywedodd Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy:
"Bydd y bil Datblygu Cynaliadwy yn gam allweddol yn y broses ddatganoli, gan sefydlu fframwaith ddatblygu sy’n glir a chyson, yn rhoi sicrwydd ac yn canolbwyntio ar y tymor hir.
"Mae’r ffocws ar ddefnyddio’r pwerau deddfwriaethol i osod fframwaith ar gyfer gwella a buddsoddi, ond yn y pen draw, mae hefyd yn gyfle i newid a herio ffyrdd o feddwl. Felly mae angen sicrhau bod ffocws ar newid."
Un o argymhellion yr ymgynghoriad yw sefydlu corff annibynnol yng Nghymru i ddarparu cyngor ac arweiniad ar ddatblygu cynaliadwy. Gallai’r corff newydd hefyd herio darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ar eu ffordd o gyflawni eu dyletswyddau.
Mae’r ymgynghoriad yn adeiladu ar y cynnydd da a welwyd eisoes ymysg nifer o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth geisio gweithredu’n fwy cynaliadwy.
Mae hyn yn cynnwys gwaith Cyngor Abertawe i wella’u ffordd o fesur perfformiad drwy ei gysylltu’n fwy uniongyrchol gyda manteision gwirioneddol i gymunedau lleol a ffocws cynyddol ar leihau allyriadau carbon.
Mae bwrdd iechyd Hywel Dda hefyd yn gweithio’n greadigol i wella perfformiad a chadernid. Mae hyn yn cynnwys cryfhau gwaith partneriaeth rhwng y trydydd sector, ysbytai a meddygon teulu i wella darpariaeth; annog gwaith gwirfoddol a datblygu cod ymarfer; a chefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Nod pob un o’r camau hyn yw cynyddu gallu o fewn y gymuned, cadarnhau a chanolbwyntio’r gofal iechyd ar atal ac ymyrraeth gynnar yn hytrach nag aros nes bod angen gwasanaethau ar frys.
Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i weithredu a deddfu mewn ffordd gynaliadwy, ac yfory bydd yn lansio’r Bil Teithio Byw. Nod allweddol y Bil yw gweld awdurdodau lleol yn galluogi ac yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio i’r gwaith yng Nghymru drwy gysylltu safleoedd allweddol fel ysbytai, ysgolion ac ardaloedd siopa gyda llwybrau di-draffig a llwybrau beicio.











