Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn rhannu ei weledigaeth ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy

Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, wedi amlinellu ei gynlluniau ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy gerbron 100 o gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru. Wrth siarad yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, aeth y Gweinidog ymlaen i ofyn am gyfraniadau i lywio Bil arfaethedig y Llywodraeth.
Dydd Iau 01 Rhagfyr 2011

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddiben a chwmpas y Bil Datblygu Cynaliadwy yn ystod 2012 a chyflwyno'r Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y flwyddyn wedyn.

Dywedodd y Gweinidog:

“Cymru yw un o'r prin weinyddiaethau yn y byd sydd â dyletswydd statudol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy. Ein nod nawr yw cryfhau'r ddyletswydd hon er mwyn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'n meddylfryd ni a meddylfryd y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Rydyn ni'n credu i'r carn ym mhwysigrwydd yr ymrwymiad hwn.

“Mae'n dangos y byddwn yn defnyddio datblygu cynaliadwy i wneud penderfyniadau gwell ar draws pob portffolio Gweinidogol i'n helpu i wireddu ein huchelgais o fod yn genedl wirioneddol gynaliadwy.

“Mae'n rhaid i'r Bil Datblygu Cynaliadwy wneud gwahaniaeth amlwg, nawr ac yn y dyfodol, i fywydau bob dydd ein dinasyddion. Mae'n rhaid i'n dull o sicrhau cynaliadwyedd fod yn berthnasol i'r ffordd o lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

“I'n cynghori, i'n harwain ac i'n herio ar hyn rydym hefyd am greu corff cynaliadwy annibynnol statudol newydd i Gymru. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i ddatblygu cynaliadwy ac mae'r dull hwn yn helpu i'n gwneud yn genedl unigryw."

Er mwyn trin cynaliadwyedd fel ei phrif egwyddor drefnu mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru:
wneud penderfyniadau hirdymor effeithiol;

  • sicrhau ein bod yn cynnwys y materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n gwella ansawdd bywyd
  • pobl ym mhopeth yr ydym yn ei wneud;
  • gweithio gydag eraill i wneud penderfyniadau.
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Amdano'r pwnc hwn

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 01 Rhagfyr 2011 Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i