Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn canmol plant am roi coetir i gymuned

Mae Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths, wedi canmol criw o blant am blannu coetir cymunedol newydd ar ystâd dai leol.
Dydd Gwener 18 Tachwedd 2011
Y Gweinidog yn canmol plant am roi coetir i gymuned

Wrth agor yn swyddogol bumed safle Plant! yng Nghymru, diolchodd y Gweinidog i'r bobl ifanc a helpodd i greu coetir Parc Caia yn Wrecsam. Un o brosiectau Llywodraeth Cymru yw Plant! a’i nod yw creu amgylchedd gwyrdd a cheisio gwneud rhywbeth am y newid yn yr hinsawdd drwy blannu coeden am bob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru.

Plannodd y Gweinidog goeden fach pan gwrddodd â phlant o Ysgol Gatholig St Anne yn Wrecsam, a gymerodd ran fawr yn y gwaith o ddatblygu'r coetir newydd drwy blannu llawer o'r coed eu hunain ym mis Mawrth.

Wrth siarad am y fenter, dywedodd y Gweinidog:

"Drwy blannu rhagor o goed, byddwn ni'n helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac yn sicrhau manteision eraill nawr ac yn y dyfodol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei hymrwymiad i greu amgylchedd gwyrdd. I gyrraedd y nod hwnnw, mae'n hanfodol ein bod ni'n annog ein plant a phlant ein plant i fyw mewn ffordd lawer mwy cynaliadwy.

"Drwy wneud i blant a phobl ifanc deimlo eu bod nhw'n berchen ar yr amgylchedd naturiol, a'u hannog nhw a'u teuluoedd i fwynhau bod allan yn yr awyr agored, gallwn ni sicrhau dyfodol gwell i ni i gyd."

Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy'n gweithredu'r cynllun Plant! ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Choed Cadw.

Nod Llywodraeth Cymru wrth blannu rhagor o goed yw creu Coedwig Genedlaethol yng Nghymru a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd wrth i’r coed weithredu fel sinc carbon.

Wrth i'r Gweinidog fynd o amgylch Parc Caia, cymerodd plant bach ran mewn gweithgareddau dan arweiniad swyddogion addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru. Fe wrandawon nhw hefyd ar stori’r awdures Julia Donaldson am y Dyn Ffyn, cyn mynd ati i greu eu fersiwn eu hunain o arwr y stori gan ddefnyddio deunydd naturiol o'r coetir.

Yn y cyfamser, aeth plant hŷn ati i ddilyn llwybr pos anifeiliaid, gan ddysgu am yr anifeiliaid a'r adar a fydd, maes o law, yn dod i fyw yn y coetir trefol hwn y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn berchen arno ac yn ei reoli.

Dywedodd Sharon Daltrey, Pennaeth Ysgol St Anne:

"Mae'r plant wedi bod wrth eu boddau yn cael bod yn rhan o'r prosiect cymunedol hwn o enwi'r safle i’r gwaith o blannu'r coed eu hunain."

Gan weithio mewn partneriaeth â'r fenter Cadwch Gymru'n Daclus, bydd y plant yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynnal a chadw Parc Caia drwy helpu i godi sbwriel yn y coetir a'r ardal o'i gwmpas.

Cafodd y fenter Plant! ei lansio ym mis Rhagfyr 2007, ac mae'n helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad yn y strategaeth Coetiroedd i Gymru i greu Coedwig Genedlaethol o goed brodorol yng Nghymru a fydd yn gweithredu fel sinc carbon.  

Mae safleoedd eraill Plant! yng Nghoed Ysgubor Wen ger Tywyn, Coed Bryn Oer ger Tredegar, Cefn Ila ger Brynbuga a Choedwig y Plant, Cwm Garw ger Pen-y-bont.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tyfu gyda'n gilydd

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 18 Tachwedd 2011 Yr Amgylchedd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i