Mae'r ffigurau datblygu cynaliadwy diweddaraf yn dangos yn glir fod Cymru wedi gwella mewn 19 o'r 44 o feysydd a gafodd eu mesur gan ddangosyddion datblygu cynaliadwy (cynnydd o 17 ers y llynedd).
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos mai ychydig sydd wedi newid ym mherfformiad Cymru mewn 18 o'r dangosyddion, os o gwbl.
Wrth siarad am y ffigurau, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths:
"Dw i wrth fy modd bod y ffigurau hyn yn dangos sut mae Cymru wedi gwneud cynnydd da mewn nifer o feysydd sy'n bwysig i sicrhau bod Cymru yn wlad gynaliadwy.
"Mae'r ystadegau'n dangos gwelliant mewn meysydd allweddol fel ansawdd aer ardaloedd trefol a gwledig, cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy ac ailgylchu a chompostio gwastraff cartref.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fyw yn ôl Cenedl Un Blaned, lle'r ydyn ni'n byw ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol sy'n defnyddio dim mwy na’n cyfran deg o adnoddau'r ddaear.
Mae ffigurau heddiw yn dangos ein bod ni'n gwneud cynnydd da, ond wrth gwrs mae lle i wella."
Mae'r ffigurau Datblygu Cynaliadwy newydd wedi'u cyhoeddi heddiw ac maen nhw ar gael mewn taflen boced neu ar-lein drwy wefan StatsCymru.











