Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Lluoedd Arfog

Heddiw mae Carl Sargeant, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Lluoedd Arfog yng Nghymru, wedi cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Dydd Llun 20 Mehefin 2011

Wrth fynychu achlysur Codi’r Faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghastell Caerdydd, fe ddywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru, drwy gydol ei phedwerydd tymor, yn cryfhau ei chefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y cynllun teithio rhatach yn cael ei agor i gyn-filwyr sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol ac i aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n byw yng Nghymru. O hyn ymlaen hefyd, bydd y Cynllun Cymorth Prynu (Homebuy) yn rhoi’r un flaenoriaeth i weddwon milwyr a laddwyd wrth wasanaethu ag a roddir i filwyr a chyn-filwyr.

Yn ystod y tymor nesaf hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyfle i filwyr ddefnyddio pyllau nofio yn ddi-dâl.  Bellach, bydd cynlluniau nofio am ddim yn agored i gyn-filwyr ac i aelodau o’r fyddin sy’n treulio cyfnod gartref. Bydd y Llywodraeth hefyd yn cadarnhau’r trefniadau i gefnogi gorymdeithiau Diwrnod y Lluoedd Arfog ledled Cymru ac yn penderfynu ynglŷn ag unrhyw gymorth ychwanegol y mae angen ei rhoi i deuluoedd y milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.

Yn ôl Carl Sargeant:

"Does dim modd mesur cyfraniad y Lluoedd Arfog. Maen nhw’n gwneud cyfraniad  enfawr i’n gwlad – yn gwarchod ein diogelwch ac yn amddiffyn ein ffordd o fyw.

"Yn aml, mae teuluoedd y bobl sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn wynebu pwysau eithriadol. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau amodau cyfartal er mwyn gwneud yn siŵr na fydd teuluoedd y milwyr yn dioddef anfantais. Fy ngobaith yw y byddwn ni’n cyflawni hynny i raddau helaeth yn ystod y pum mlynedd nesaf wrth i Lywodraeth Cymru gryfhau ei chefnogaeth i’r Lluoedd Arfog."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Lluoedd arfog a chyn-filwyr

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 20 Mehefin 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i