Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Menter newydd i arwain y gwaith ar atal marwolaethau oherwydd gorddosio ar gyffuriau

Mae menter ar gychwyn ledled Cymru i rwystro marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau, cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau heddiw.
Dydd Gwener 20 Mai 2011

Mae “Cynllun Achub Naloxone yn y Cartref” yn cynnig pecynnau am ddim o Naloxone i ddefnyddwyr cyffuriau sydd mewn perygl o gymryd gorddos. Mae’r cyhoeddiad yn cael ei wneud mewn cynhadledd o dan ofal Prosiect Cyffuriau Abertawe am lwyddiant Naloxone fel antidôt (gwrthwenwyn) ar gyfer pobl sy’n gorddosio ar heroin.

Mae’r penderfyniad yn dilyn gwerthusiad o’r treialon sydd wedi’u cynnal dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn sawl ardal yng Nghymru.

Meddai’r Gweinidog,

“Mae tystiolaeth gref yn yr ardaloedd sydd wedi bod yn defnyddio Naloxone ei fod yn lleihau nifer y marwolaethau ynghyd â’r achosion o orddosio, a dyna pam mae Llywodraeth Cynulliad am roi’r fenter ar waith ledled y wlad.

“Mae camddefnyddio sylweddau yn cael effaith ddeifiol ar unigolion a’u teuluoedd a’u ffrindiau.  Nod ein strategaeth 10 mlynedd ar gamddefnyddio sylweddau “Gweithio gyda’r Gilydd i Leihau Niwed”yw lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan gyffuriau a helpu pobl i leihau eu dibyniaeth ar sylweddau trwy weithio gyda phartneriaid fel Prosiect Cyffuriau Abertawe.  

“Rwy’n gobeithio y bydd ein cyhoeddiad heddiw am Gynllun Achub Naloxone yn y Cartref yn ein helpu i wireddu’n hymrwymiad i leihau’r nifer sy’n marw oherwydd cyffuriau yng Nghymru.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cysylltu â ni

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 20 Mai 2011 Diogelwch cymunedol Gwella iechyd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i