Meddai Carl Sargeant,
“Pan lansiais i’r strategaeth ‘Hawl i fod yn Saff’ llynedd, dywedais bod datblygu gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau cam-drin domestig yn dasg allweddol.
“Rwy’n falch o ddweud bod hyn wedi’i wneud a bod ein gwefan nawr yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau sydd ar gael yn genedlaethol ac yn lleol fydd yn gallu helpu dioddefwyr a’r rhai sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r trais ofnadwy hyn. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer troseddwyr sy’n ceisio cymorth i wella eu hymddygiad tramgwyddus.
“Mae cam-drin domestig yn difetha miloedd o fywydau ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth gallwn ni wneud i fynd i’r afael â’r trais erchyll hwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n parhau i fuddsoddi symiau sylweddol i fynd i’r afael â’r broblem hwn, gyda chyfanswm gwariant cyllideb eleni yn £4 miliwn.
“Er hynny, mae’n bwysig bod dioddefwyr a gweithwyr cefnogi yn gwybod pa wasanaethau sydd ar gael ar draws Cymru. Rwy’n siŵr y bydd rhoi’r wybodaeth hon ar gael yn rhwydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”











