Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn croesawu adnodd gwybodaeth newydd

Gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Carl Sargeant heddiw groesawu adnodd newydd sy’n tynnu gwybodaeth am drais yn erbyn menywod a gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru at ei gilydd.
Dydd Iau 31 Mawrth 2011

Meddai Carl Sargeant,

“Pan lansiais i’r strategaeth ‘Hawl i fod yn Saff’ llynedd, dywedais bod datblygu gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau cam-drin domestig yn dasg allweddol.

“Rwy’n falch o ddweud bod hyn wedi’i wneud a bod ein gwefan nawr yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am wasanaethau sydd ar gael yn genedlaethol ac yn lleol fydd yn gallu helpu dioddefwyr a’r rhai sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r trais ofnadwy hyn.  Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer troseddwyr sy’n ceisio cymorth i wella eu hymddygiad tramgwyddus.

“Mae cam-drin domestig yn difetha miloedd o fywydau ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth gallwn ni wneud i fynd i’r afael â’r trais erchyll hwn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n parhau i fuddsoddi symiau sylweddol i fynd i’r afael â’r broblem hwn, gyda chyfanswm gwariant cyllideb eleni yn £4 miliwn.

“Er hynny, mae’n bwysig bod dioddefwyr a gweithwyr cefnogi yn gwybod pa wasanaethau sydd ar gael ar draws Cymru.  Rwy’n siŵr y bydd rhoi’r wybodaeth hon ar gael yn rhwydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cymorth yn eich ardal chi

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 31 Mawrth 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i