Mae mudiadau gan gynnwys Cymorth i Ferched Cymru, Hafan Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr wedi cael cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i gynnal nifer o raglenni sy'n cefnogi dynion a menywod sy'n ddioddefwyr a'u plant. Ymhlith y prosiectau eraill a ariennir mae rhaglenni adsefydlu i’r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig.
Hefyd, fe gyhoeddodd y Gweinidog gyllid cyfalaf i fynd i’r afael â darparu gwasanaethau mewn ardaloedd yng Nghymru sydd ddim yn elwa o gyfleusterau ‘Siop Un Stop’ sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen ar gyfer cam-drin domestig.
Meddai'r Gweinidog,
"Mae gan elusennau cam-drin domestig yng Nghymru enw da am helpu i roi bywydau dioddefwyr yn ôl ar y trywydd iawn. Mae'n hollbwysig felly fod y mudiadau hyn yn cael y cymorth sydd ei angen i barhau â'u gwasanaeth a'u gofal o ansawdd uchel.
"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r grwpiau hyn ac er bod llai o arian cyhoeddus ar gael mae'r pecyn ariannu hwn yn dangos hynny.
"Gall cam-drin domestig o unrhyw fath ddinistrio teuluoedd a gwneud niwed corfforol ac emosiynol i ddioddefwyr sy'n gallu para am oes. Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn mynd gam ymhellach i ddod â cham-drin domestig i ben am byth."
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi neilltuo £4.7 miliwn i helpu i ddarparu gwasanaethau cymorth cam-drin domestig yng Nghymru dros y cyfnod 2011-12.











