Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn lansio Strategaeth dân

Heddiw lansiodd Carl Sargeant, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, strategaeth newydd i addysgu plant a phobl ifanc am ddiogelwch tân ac atal tanau.
Dydd Iau 09 Rhagfyr 2010

Mae’r strategaeth yn pennu sut y bydd gwasanaethau tân ac achub Cymru yn addysgu plant am beryglon tân a digwyddiadau sy’n ymwneud â thanau. Y mae hefyd yn ceisio annog plant a phobl ifanc rhag peidio â thorri’r gyfraith nac ymddwyn yn wrthgymdeithasol, a hynny mewn perthynas â than, er enghraifft drwy wneud galwadau ffug neu gynnau tân bwriadol.

Lansiwyd y strategaeth gan Carl Sargeant yng Ngorsaf Dân Prestatyn lle gwnaeth gyfarfod â Chymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc.

Dywedodd y Gweinidog,

“Mae’n bosibl bod plant a phobl ifanc, sydd â chwilfrydedd naturiol, yn teimlo rhyw fath o reidrwydd i arbrofi gyda thân, a hynny heb roi unrhyw ystyriaeth i’r peryglon. Rhaid cau pen y mwdwl ar ymddygiad o’r fath cyn dechrau cyn iddo arwain at bethau mwy difrifol.

“Yn ystod fy amser fel diffoddwr tân diwydiannol, gwelais â’m llygaid fy hun y difrod anferth a ddaw yn sgil tân. Mae’n hanfodol bod ein pobl ifanc yn gwybod beth yw’r peryglon a’u bod yn cael eu hannog i fod yn ddiogel ac ymddwyn yn briodol o amgylch tanau. Dyma’n union beth yw nod y strategaeth.”

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,

"Rydym yn falch iawn bod y Strategaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn cael ei lansio ym Mhrestatyn wrth i ni edrych am ffyrdd o weithio gyda phlant a phobli ifanc er mwyn eu haddysgu am beryglon tanau.

“Mae gennym nifer o gynlluniau ymyriadau ieuenctid o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd wedi’u hanelu at wella ansawdd bywydau pobl ifanc yn y rhanbarth.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Strategaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 09 Rhagfyr 2010 Diogelwch cymunedol Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i