Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn lansio cynllun gweithredu i gefnogi’r undebau credyd

Heddiw, lansiodd Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, ‘Codi’r Proffil: Ymateb i’r Her’ sef cynllun gweithredu i gefnogi undebau credyd yng Nghymru.
Dydd Iau 09 Rhagfyr 2010

Mae’r cynllun tair blynedd yn cefnogi datblygiad undebau credyd cryf, cadarn ac effeithiol yng Nghymru. Yn ystod yr hinsawdd economaidd heriol presennol mae’r undebau credyd yn ddarparwyr pwysig o wasanaethau ariannol  fforddiadwy a chyraeddadwy.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi nifer o amcanion allweddol o ran sut y gall undebau credyd sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Mae’r amcanion yn cynnwys cryfhau’r broses o lywodraethu undebau credyd, cynyddu nifer aelodau’r undebau credyd a chodi proffil undebau credyd yng Nghymru.  

Dywedodd y Gweinidog,

“Mae’r cynllun gweithredu hwn yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi undebau credyd.

“Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae’r undebau credyd yng  Nghymru wedi datblygu’n  sylweddol. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, nifer  aelodau’r undebau credyd yn 2000 oedd 10,000 ac mae’r rhif hwnnw wedi cynyddu bum gwaith cymaint i 50,000 erbyn diwedd 2009.  

“Ar adeg pan fo anhapusrwydd eang gyda'r sector bancio yn y DU, mae undebau credyd yng Nghymru wedi arwain y gad ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

“Yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, mae’n bwysicach nag erioed i ddarparu gwasanaethau ariannol sydd o fewn cyrraedd ac sy’n fforddiadwy i bobl Cymru. Yn ogystal â chynnig ffordd ddiogel a chyfleus i bobl gynilo a chynnig benthyciadau cost isel, gall aelodau undebau credyd gael gafael ar ystod o wasanaethau ariannol eraill. Gall y rhain gynnwys cyfrifon cyfredol, cyngor ar reoli dyledion a chyfrifon cynilo ar gyfer y Nadolig.

“Rwyf wedi ymrwymo i helpu’r undebau credyd sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Erbyn 2013, rwy’n gobeithio y bydd nifer o’r undebau credyd yn hunan gynaliadwy neu yn agos iawn at fod yn hunan gynaliadwy.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 09 Rhagfyr 2010 Bod mewn dyled a chynhwysiant ariannol (undebau credyd) Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i