Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymunedau yng Nghymru ar fin elwa o gyllid gwerth £4.2 miliwn

Mae cymunedau ledled Cymru ar fin elwa o gyllid gwerth mwy na £4 miliwn o Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (CFAP) Llywodraeth y Cynulliad.
Dydd Gwener 01 Hydref 2010
Cymunedau yng Nghymru ar fin elwa o gyllid gwerth £4.2 miliwn
Cymunedau yng Nghymru ar fin elwa o gyllid gwerth £4.2 miliwn

Cyhoeddodd Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, y bydd cyllid gwerth £4,220,244 yn cael ei rannu gan 23 o brosiectau ledled Cymru. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i fudiadau cymunedol a gwirfoddol i’w helpu i ddatblygu cyfleusterau a gwasanaethau newydd.

Fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi’r cyllid yn ystod ymweliad â Chanolfan Gymunedol Trecenydd yng Nghaerffili. Yn gynharach eleni, dyfarnwyd cyllid CFAP gwerth bron i £121,000 i’r ganolfan er mwyn gwneud gwaith ailwampio sylweddol ar y safle. Fel rhan o’r gwaith hwn, cafodd y fynedfa a’r prif gyntedd eu gwella, cafodd cegin a bar coffi newydd eu gosod, a chafodd y swyddfeydd eu hadnewyddu.  

Gyda’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn hyn, aeth y Gweinidog ar ymweliad â’r ganolfan i weld sut mae’r arian wedi gwella’r safle er budd y gymuned leol.

Wrth siarad yng Nghanolfan Gymunedol Trecenydd, meddai Carl Sargeant:

“Mae’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ledled Cymru.  

“Mae’n wych cael bod yma yng Nghanolfan Gymunedol Trecenydd i weld sut mae’r gymuned leol wedi cael budd o grant blaenorol a ddyfarnwyd iddo.  Rwy’n falch hefyd y bydd y cyllid rwyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn adfywio llawer o gymunedau yng Nghymru. Mae’r canolfannau hyn yn hollbwysig i adfywio ein cymunedau a’u cadw’n iach.

“Mae gan gyllid o’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol effaith gadarnhaol ar gymunedau Cymru ac ar fywydau pobl leol o ddydd i ddydd. Mae’r rhaglen yn caniatáu i fudiadau cymunedol a gwirfoddol ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau sy’n rhoi’r cyfle i bobl leol ddod ynghyd a rhoi cynnig ar bethau newydd.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 01 Hydref 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i