Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn croesawu newidiadau cadarnhaol i ddangosyddion tlodi plant

Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi croesawu'r ystadegau diweddaraf ar y dangosyddion tlodi plant. Mae'r rhain yn dangos bod hanner y dangosyddion yr oedd digon o ddata ar eu cyfer wedi gwella, o'u cymharu â'r ffigurau llinell sylfaen. Mae pob dangosydd arall, heblaw un, wedi aros yn sefydlog.
Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2009

Mae'r 31 o ddangosyddion tlodi plant yn cyffwrdd ar bob math o bynciau, gan gynnwys meysydd fel iechyd, tai, addysg a diogelwch cymunedol. O'r 31, mae digon o ddata ar gael ar gyfer 22 dangosydd. Mae 11 o'r rhain wedi newid er gwell, a 10 arall yn dangos dim neu prin ddim newid. Yr unig ddangosydd sydd wedi dirywio yw hwnnw sy'n nodi nifer y plant sy'n byw mewn aelwydydd heb waith. Efallai bod hynny i'w ddisgwyl, o gofio ein bod ynghanol dirwasgiad.

Mae'r prif welliannau wedi bod ym maes addysg, gyda chynnydd yn nifer y bobl ifanc ac oedolion sy'n ennill cymwysterau. Mae'r gwelliannau eraill yn cynnwys gostyngiad yn nifer y bobl sy'n byw mewn llety gwely a brecwast a llety dros dro, a gostyngiad yn nifer y plant a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd.  

Meddai Dr Gibbons:

"Rydw i'n falch iawn bod y set hwn o ddangosyddion tlodi plant yn dangos gwelliannau. Maent yn dangos effeithiau'r camau rydyn ni a'n partneriaid wedi bod yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae tlodi yn effeithio ar blant a phobl ifanc mewn gwahanol ffyrdd. Nid incwm yw'r unig ffactor. Rydyn ni eisiau i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru fedru cael profiadau a chyfleoedd, heb eu llyffetheirio gan dlodi. Mae'r gwelliannau yn ymddangos mewn tri maes gwahanol, ac felly maen nhw'n galonogol iawn."

"Mae'r pwysigrwydd rydyn ni yn ei dadogi ar fynd i'r afael â thlodi plant yn amlwg yn y ffordd rydyn ni wedi defnyddio ein pwerau deddfu newydd i gyflwyno Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynharach y mis hwn. Bydd y Mesur yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru i nodi camau i helpu â'r nod o ddileu tlodi plant erbyn 2020, ac yna i gymryd y camau hynny.

"Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bydd dileu tlodi plant yn gofyn am bartneriaethau cryf rhyngom â Llywodraeth y DU ac â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal â phartneriaethau rhwng adrannau Llywodraeth y Cynulliad ei hun."

Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Addysg:

"Mae taclo tlodi plant yn flaenoriaeth i Lywodraeth y Cynulliad ac mae'n sail i'n holl bolisïau a'n rhaglenni.

"Rydym yn buddsoddi miliynau mewn rhaglenni ar gyfer pob cam ym mywyd plentyn, o raglenni Dechrau'n Deg a Cymorth, sy'n darparu gofal plant a chymorth o ansawdd uchel yn ystod y blynyddoedd cynnar i'r rhaglen Rhagori, sy'n targedu disgyblion mewn ysgolion sydd â'r gyfran uchaf o fyfyrwyr difreintiedig.

"Rydw i wrth fy modd bod ein buddsoddiadau yn dwyn ffrwyth, ac mae'r data calonogol hwn yn dangos gwelliannau sylweddol ar gyfer canlyniadau disgyblion, ar gyfer y rheini sy'n gadael ysgol ac ar gyfer oedolion sy'n dysgu.

"Mae rhoi cyfleoedd a phrofiadau mewn bywyd i blant o gefndiroedd difreintiedig, pan fyddai'r cyfleoedd a'r profiadau hynny fel arfer y tu hwnt iddynt, yn allweddol i'n hymdrechion i ddileu pob agwedd ar dlodi plant."

24 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 24 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i