Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi enwau aelodau’r Grŵp Cynghori Annibynnol ar gyfer adolygiad cynllunio Cymru

Heddiw, cyhoeddodd John Griffiths, y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy enwau aelodau’r grŵp cynghori annibynnol fydd yn goruchwylio’r adolygiad o wasanaethau cynllunio Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Dydd Mercher 12 Hydref 2011

Cadeirydd y grŵp fydd John Davies MBE, cyn Gyfarwyddwr Arolygiaeth Gynllunio Cymru.  Mae’r aelodau yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd cynllunio gan gynnwys sefydliadau amgylcheddol, y diwydiant adeiladu, llywodraeth leol a’r gyfraith gynllunio.

Dyma’r aelodau:

  • John Davies MBE (Cadeirydd)
  • Jane Carpenter, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (Cwmni Redrow)
  • Andrew Farrow, Cyngor Sir y Fflint
  • Chris Sutton, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (Jones Lang LaSalle)
  • Lucy Taylor, Cymorth Cynllunio Cymru (Cyngor Dinas Casnewydd)
  • Mike Webb, y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar
  • Huw Williams, Cymdeithas y Cyfreithwyr (Geldards LLP)

Dywedodd John Griffiths:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi llwyddo i ddenu unigolion gwybodus iawn i fod yn aelodau o’r grŵp hwn.  Mae gan bob un ohonynt gyfoeth o brofiad ymarferol o’r system gynllunio.

“Rwyf am sicrhau bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynllunio yn cael cyfle i roi ei farn i’r grŵp cynghori.  Yn ystod 2013, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Papur Gwyn ar Gynllunio ac rwyf am i’r sylwadau hyn gael eu hystyried cyn hynny.”

Dyma fydd dyletswyddau’r Grŵp Cynghori Annibynnol:

  • Nodi’r prif amcanion polisi y mae’n rhaid i’r system gynllunio eu cyflawni;
  • Asesu’r trefniadau presennol mewn sefydliadau gan nodi enghreifftiau o arferion da a meysydd sydd angen eu gwella;
  • Cynnig opsiynau ynghylch sut i gynnal y system gynllunio yn y dyfodol gan gynnwys sefydlu a datblygu gwasanaethau rheoli;
  • Cyflwyno adroddiad yn haf 2012.

Yn ystod yr hydref, bydd y grŵp cynghori yn gwneud cais am dystiolaeth fydd yn gwahodd sylwadau gan unigolion o wahanol feysydd cynllunio.

Caiff argymhellion y grŵp eu cyhoeddi'r haf nesaf a byddant yn rhan o dystiolaeth Llywodraeth y Cynlluniad ar y Mesur Cynllunio newydd.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Grŵp cynghori annibynnol yn ystyried cynllunio yng Nghymru

Tagiau

Cynllunio 12 Hydref 2011 Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i