Dyna oedd neges Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, wrth iddi siarad yn gynharach heddiw (Dydd Llun 28 Mawrth) gydag Bwyllgor y Cabinet ar Adnewyddu’r Economi.
Mae “Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd”, sef strategaeth economaidd Llywodraeth y Cynulliad, yn nodi’n glir fod angen mabwysiadu dull o weithredu sy’n cynnwys y llywodraeth gyfan er mwyn sicrhau lles a dyfodol economi Cymru. Mae’n pwysleisio hefyd y rôl sydd gan y system gynllunio i’w chwarae i gefnogi twf busnesau yng Nghymru.
Dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd:
“Yn dilyn cyhoeddi astudiaeth allweddol yn ddiweddar, a oedd yn edrych yn fanwl ar ein systemau presennol, rydyn ni’n gwneud gwelliannau mawr i’r broses ceisiadau cynllunio. Rhaid i ni sicrhau bod ein polisïau cynllunio yn cefnogi ein hamcanion ar gyfer adnewyddu’r economi mewn modd sy’n gynaliadwy ar draws Cymru gyfan. ”
Er mwyn sicrhau bod polisïau cynllunio yn addas at y diben, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu astudiaeth ymchwil. Bydd yr astudiaeth honno yn cael ei defnyddio fel sail ar gyfer adolygiad o’r polisi cynllunio cenedlaethol presennol yn ogystal â’r canllawiau presennol ar gyfer datblygu economaidd. Mae’r llywodraeth hefyd wedi sefydlu grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned fusnes, awdurdodau lleol a’r trydydd sector, i gadw llygad ar y prosiect.
Mae’r gwaith yn parhau, ond mae’r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu hyd yma yn dangos bod angen amryw o welliannau i’r ffordd y mae’r system gynllunio yn trin a thrafod cynigion datblygu economaidd.
Ychwanegodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd:
“Mae’n hanfodol sicrhau bod y system gynllunio yn gweithio’n iawn er mwyn i ni allu sicrhau bod ein gweledigaeth ar gyfer adnewyddu’r economi ledled Cymru yn cael ei throi yn swyddi a buddsoddiad ar lawr gwlad.
“Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn chwarae ei rhan drwy sicrhau bod y polisïau cynllunio a’r seilwaith priodol yn eu lle. Ond, mae’n gwbl amlwg hefyd fod angen i awdurdodau lleol, busnesau a rhanddeiliaid eraill wneud eu rhan.
“Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddyn nhw gynlluniau datblygu lleol yn eu lle, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Dylai’r cynlluniau hynny fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Rhaid iddynt sicrhau hefyd, pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn â cheisiadau cynllunio, fod gwerth datblygu economaidd, yn nhermau cyfoeth a chreu swyddi, yn cael ei ystyried yn fanwl, ar y cyd â materion amgylcheddol a chymdeithasol.”
Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd y dylai rhanddeiliaid allweddol eraill, er enghraifft ymgyngoreion statudol wrth iddynt gynnig cyngor amserol a manwl gywir ar geisiadau cynllunio, hefyd ystyried y ffactorau hyn yn fanwl.
Galwodd y Gweinidog hefyd ar y gymuned fusnes i wella’r ffordd y mae’n trosglwyddo’r manteision economaidd sy’n deillio o’u datblygiadau arfaethedig.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, wrth iddo siarad am bwysigrwydd cynllunio wrth weithredu “Adfywio’r Economi: Cyfeiriad Newydd”:
“Yn ôl y byd busnes, mae cynnig yr amodau cywir ar gyfer buddsoddi yn hanfodol i gynyddu ein llewyrch fel cenedl. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf hon yn dangos ein bod wedi cael dechrau da ar y gwaith o ddiwygio’r system gynllunio, er mwyn sicrhau bod busnesau yn gallu buddsoddi a chreu’r swyddi a’r cyfoeth sydd eu hangen arnon ni. Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud eto.”
Bydd y dystiolaeth sydd wedi’i chasglu fel rhan o’r gwaith hwn yn cael ei defnyddio fel sail ar gyfer cam nesaf y prosiect ymchwil. Nod y cam nesaf fydd pennu faint o angen sydd am bolisi a chanllawiau cynllunio newydd, a hyd a lled y canllawiau newydd. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a bydd yr astudiaeth ymchwil derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Llywodraeth yn ystod y tymor Cynulliad nesaf.











