Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Cydgysylltydd Strategaeth Pobl Hŷn i weithio gyda phobl hŷn trwy’r ‘Fforwm 50+’ ac i drosglwyddo’u sylwadau’n uniongyrchol i’r cyngor.
Mae’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yn gweithredu ar lefel Cymru gyfan, a heddiw ymwelodd y Dirprwy Weinidog â stondin y Fforwm Partneriaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i weld sut mae pobl hŷn yn helpu awdurdodau lleol i addasu eu gwasanaethau a’u cyfleusterau ar gyfer y dyfodol.
Er mwyn ymateb i’r cyfnod hwn o newid, mae’r Fforwm Partneriaeth wrthi’n datblygu gwefan newydd i roi gwybod am ei weithgareddau. Ond yn bwysicach fyth, bydd y wefan yn creu porth i annog pobl hŷn i fynegi eu barn a’u pryderon.
Ni ddylai blogio a phostio sylwadau fod yn rhywbeth i’r ifanc yn unig, ac mae’r wefan ryngweithiol hon yn cael ei datblygu i ymateb i anghenion a defnyddwyr newydd. Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant a mynediad am ddim i’r rhyngrwyd, felly dylai fod yn ddigon hawdd ymweld â hi.
Meddai Gwenda Thomas:
“Rydyn ni’n gymdeithas sy’n heneiddio’n gyflym. Rhaid i ni i gyd ddeall hynny er mwyn gallu bwrw ymlaen i wneud y penderfyniadau priodol ynghylch sut i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y newidiadau. Y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn a Fforymau 50+ yr Awdurdodau Lleol yw fy llygaid a’m clustiau i ddod i ddeall y newidiadau hyn ac rwy’n croesawu pob cyfle i ddatblygu ffyrdd arloesol o ymgysylltu â’r to hŷn.
“Dim ond trwy gymryd rhan y byddwch chi’n cael llais, ac os nad ydyn ni’n clywed gennych chi ni fyddwn ni’n gwybod beth yw eich anghenion. Felly manteisiwch ar y cyfle i ymweld â’r wefan a dweud eich dweud wrthym am bob agwedd ar heneiddio.”











