Sefydlwyd y grŵp yn 2004 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu cyngor annibynnol arbenigol i lywio polisïau er mwyn gwella bywydau pobl hŷn Cymru ac i gynllunio ar gyfer y goblygiadau a ddaw yn sgil byw mewn cymdeithas sy’n mynd yn hŷn.
Wendy Bourton OBE, prif weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru, fydd yn cymryd lle Dr Malcolm Fisk sydd wedi cwblhau ei gyfnod o bedair blynedd fel cadeirydd.
Dywedodd Gwenda Thomas:
Hoffwn dalu teyrnged i Dr Fisk am ei waith caled a’i ymrwymiad fel cadeirydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gyflawni ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn.
Gwelir Cymru fel arweinydd ar faterion sy’n ymwneud â phobl hŷn ac rwy’n awyddus i’r enw da hwn barhau. Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn mynd yn hŷn ac mae hyn yn achos i ddathlu. Ond wrth inni heneiddio, mae ein hanghenion yn newid hefyd ac felly mae hi’n bwysig ein bod yn cynllunio’n effeithiol er mwyn diwallu’r anghenion hynny yn y dyfodol.
Mae gan y Fforwm rôl bwysig i’w chwarae yn rhoi ail ran o Strategaeth Pobl Hyn Llywodraeth y Cynulliad ar waith a bydd yn helpu i sicrhau bod ein polisïau’n diwallu anghenion pobl hŷn hefyd.
Rwy’n falch iawn bod Wendy wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn gadeirydd newydd ar y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol. Yn flaenorol, cynrychiolydd y Sector Tai ar y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol oedd Wendy ac felly mae hi’n gyfarwydd iawn â’r agenda ar heneiddio a hefyd mae ganddi’r cymysgedd cywir o sgiliau arwain a rhinweddau personol a fydd yn ei chynorthwyo i lwyddo yn ei rôl newydd.
Ychwanegodd Wendy Bourton OBE:
Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i gyfrannu at waith y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol a chydweithio gyda’r aelodau a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Disgwylir cyhoeddiad pellach ynghylch penodiadau newydd i’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol cyn hir.
26 Ionawr 2009











