Bydd y gwasanaeth cydgysylltiedig hwn yn sicrhau bod pobl yn cael manteisio ar yr holl gyngor, cymorth ac arian sydd ar gael iddynt. Bydd yn gweithio gydag amryw o asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, sydd mewn cysylltiad yn ddyddiol â phobl agored i niwed.
Amcanion eraill y cynllun yw:
- Targedu’r arian at y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef tlodi tanwydd.
- Nodi’r bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef tlodi tanwydd cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu gael help yn fuan.
- Datblygu rhaglen newydd i helpu pobl i leihau eu biliau tanwydd. Bydd hyn yn cymryd lle’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES).
- Benthyciadau rhad gan undebau credyd ar gyfer cymryd camau i arbed ynni.
Wrth lansio’r cynllun, meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd Jane Davidson:
“Os ydym am gael gwared ar dlodi tanwydd, nid gorliwio fyddai dweud ein bod yn wynebu her enfawr. Gan fod y farchnad ynni yn ansefydlog yn fyd-eang a phrisiau tanwydd yn codi, mae’n byd ni wedi newid y tu hwnt i bob adnabod ers gosod ein targedau gwreiddiol.
“Rhaid felly wrth ddulliau gweithredu newydd. O hyn ymlaen, byddwn yn canolbwyntio’n hymdrechion ar y rhai sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf o ran ceisio cadw’n gynnes a thalu eu biliau ynni. Rydym yn awyddus i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed rhag cael eu bwrw gan brisiau ynni cyfnewidiol ac rydym am wneud y gorau o’r adnoddau sydd gennym.
“Mae’r cynllun hwn yn sicrhau ein bod yn adnabod cyn gynted â phosibl y bobl a allai ddioddef waethaf, gan ofalu eu bod yn cael manteisio ar yr holl help sy’n cael ei ddarparu. Mae’n ganolog i’n dull gweithredu newydd ein bod yn sicrhau bod unrhyw gymorth a roddir yn gydgysylltiedig ac wedi’i gydlynu a’i fod yn cyrraedd y bobl iawn. Rydym am greu un gwasanaeth canolog a fydd yn rheoli’r atgyfeiriadau i gyd. Mae gwybodaeth eisoes ar gael gan nifer o wahanol ffynonellau, ond rydym am ei chydgysylltu’n well a sicrhau ei bod ar gael yn rhwydd. Rhaid iddi hefyd gael ei rhoi mewn ffordd sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n gofyn am y help. Mae angen creu pwynt cyswllt canolog a chlir er mwyn i bobl allu cael at yr holl gymorth sydd ar gael.
“Y syniad yw y bydd yr holl gymorth sydd ar gael yn cael ei gynnig i rywun waeth pa gymorth y bydd yn holi amdano. Er enghraifft, pe na bai’r HEES yn digwydd bod yn addas i rywun, bydden ni’n gallu edrych ar y cymorth sydd ar gael gan gwmnïau ynni neu gyrff fel yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.”
Bydd y cynllun HEES ar ei newydd wedd yn cynnwys asesiad o’r tŷ cyfan i nodi pa welliannau fydd fwyaf addas iddo. Asesiad oes gyfan fydd hwn i fesur y manteision yn erbyn cost y dulliau arbed ynni.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi bron £23 miliwn y flwyddyn ar gyfer HEES. Dros y tair blynedd nesaf, amcangyfrifir y bydd £350 miliwn ar gael ar gyfer gwelliannau i arbed ynni cartref yng Nghymru.
9 Tachwedd 2009











