Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lansio ail gam y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn

Lansiodd Gwenda Thomas ail gam Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Pobl Hŷn yn ystod y gynhadledd Byw’n Hirach/Byw’n Well yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd.
Dydd Iau 13 Mawrth 2008

Bydd yr ail gam yn adeiladu ar gyflawniadau’r cam cyntaf, lle cyflwynwyd cynlluniau poblogaidd fel teithiau bws am ddim a nofio am ddim i bobl hŷn, yn ogystal â phenodi Comisiynydd Pobl Hŷn.

Nod cam cyntaf y strategaeth, a lansiwyd yn wreiddiol y 2003, oedd codi proffil anghenion pobl hŷn a sicrhau bod eu barn yn cael ei geisio wrth ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau lleol.

Bu’n llwyddiannus wrth gyflawni’r nod hwnnw, gyda chefnogaeth gref gan bobl hŷn a sefydliadau i’r oedrannus. Cydnabuwyd y strategaeth yn rhyngwladol hefyd fel arfer gorau ar gyfer y ffordd y cynhwyswyd pobl hŷn yn y broses benderfynu.

Bydd y cam newydd hwn yn y strategaeth, o fis Ebrill 2008-2013, yn canolbwyntio ar ystod o feysydd strategol allweddol, gan gynnwys parhau i wella iechyd a lles pobl hŷn a dulliau i’w caniatáu i barhau’n annibynnol ac yn weithgar am gyfnod hwy.

Wrth siarad yn y gynhadledd heddiw, meddai Gwenda Thomas:

Erbyn hyn, mae gan bobl hŷn gyfle i fyw bywyd i’r eithaf, ac maent yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’w teuluoedd a’u cymunedau.

Mae sawl her o’n blaenau, wrth gwrs. Er enghraifft, rhaid i ni waredu’r ystrydebau sy’n gysylltiedig â phobl hŷn, ymdrin â thlodi ymysg pensiynwyr, sicrhau bod dysgu gydol oes yn realaeth i fwy o bobl, a chynyddu gweithgaredd economaidd.

Mae ‘Cymru’n Un’ yn dangos yn eglur ein hymrwymiad i ddatblygu Cymru gynhwysol sy’n cynnig cyfle cyfartal.  Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol i bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru.

Rydym ar y trywydd iawn eisoes, ac wedi cyflwyno cynlluniau fel teithiau bws am ddim a nofio am ddim i bobl hŷn, a sefydlu’r Comisiynydd Pobl Hŷn arloesol.

Ond nid yw ymdrin â goblygiadau Cymru sy’n heneiddio yn ateb syml – ac un o’r heriau mawr i’r strategaeth yn ystod y cam nesaf fydd esblygu ein dull er mwyn dod â materion sy’n ymwneud â heneiddio â phobl hŷn i’r brif ffrwd.

Yn wreiddiol, dyrannwyd £13 miliwn i Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol, i sicrhau bod cam cyntaf y strategaeth yn cael ei roi ar waith yn effeithiol.  Erbyn hyn, ychwanegwyd £7 miliwn arall at y swm hwn ar gyfer y 3 blynedd nesaf, gan olygu buddsoddiad o £20 miliwn i gyd, i sicrhau bod y Strategaeth yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol.

13 Mawrth 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Pobl hŷn

Tagiau

Pobl hŷn 13 Mawrth 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i