Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Agor cartref newydd £6m i'r henoed yn Nhor-faen

Mae Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai, a Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, wedi agor datblygiad tai arloesol £6m i bobl dros 55 yng Nghwmbrân.
Dydd Gwener 03 Hydref 2008

Adeilad Tŷ George Lansbury, a adeiladwyd gan Melin Homes, yw'r cynllun Gofal Ychwanegol cyntaf i'w adeiladu yn Nhorfaen yn dilyn buddsoddiad o £3.4m gan Lywodraeth y Cynulliad.

Mae'r cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn cynnwys fflatiau unigol sy'n galluogi'r henoed i fyw'n annibynnol mewn llety hunangynhwysol, tra'n derbyn gofal a chymorth priodol ar yr un pryd.

Meddai Ms Davies:

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu pob datblygiad sy'n galluogi pobl hŷn i osgoi dibynnu ar ofal preswyl neu ofal hirdymor.

Rwy'n falch dros ben y bydd y cynllun hwn yn galluogi'r trigolion i fyw'n annibynnol, gan wybod bod cymorth ar gael os bydd ei angen arnynt.

Rwy'n falch bod Llywodraeth y Cynulliad wedi llwyddo i gyfrannu £3.4 miliwn drwy raglen y Grant Tai Cymdeithasol i gynorthwyo Melin Homes i dalu am adeiladu'r cynllun newydd hwn.

Dywedodd Ms Davies fod datblygiadau o'r fath yn cyd-fynd â nodau Llywodraeth y Cynulliad yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn i wella iechyd, lles emosiynol, urddas a'r parch i bobl hŷn.

Aeth Ms Davies ymlaen:

Yn ddiweddar, cytunais i waith ddechrau i ddatblygu Strategaeth Dai Genedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r ystod gyfan o broblemau tai sy'n effeithio ar bobl hŷn, gan gynnwys newid demograffeg a'r angen i gryfhau'r cysylltiadau rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yr haf nesaf a chaiff ei ddefnyddio i lywio'n polisïau yn y dyfodol.

Meddai Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol:

Mae'r ffaith ein bod yn byw yn hwy ac yn fwy iach yn destun dathlu. Dyna pam mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl hŷn drwy sicrhau bod y genhedlaeth hŷn yn byw'n annibynnol cyhyd ag y maent yn dewis gwneud hynny.

Wrth i gynlluniau fel Tŷ George Lansbury gael ei datblygu ledled Cymru, byddwn yn gweld mwy o bobl yn byw dros 80 a 90 oed lle maent am fyw ac yn haeddu byw ynddynt. Bydd hyn yn eu galluogi i barhau i gyfrannu i'w cymunedau.

3 Hydref 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Tai

Tagiau

Pobl hŷn 03 Hydref 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i