Penodwyd Richard Owen Watkin yn Gadeirydd am dymor o dair blynedd o 15 Mehefin ac yn dilyn ymarfer recriwtio cyhoeddus, penodwyd David Powell a Ceri Stradling yn aelodau am dair blynedd, o 1 Ebrill 2012.
Corff annibynnol yw’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru sy’n gyfrifol am adolygu’r trefniadau etholiadol yng Nghymru ac am gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus.
Bydd y Cadeirydd yn derbyn tâl ar gyfradd o £269 y sesiwn, ac yn ymrwymo 4 diwrnod y mis i’r gwaith. Bydd aelodau yn derbyn £240 am bob diwrnod llawn a £120 am bob hanner diwrnod, gan ymrwymo 4 diwrnod y mis i’r gwaith.
Gwnaed y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn cyfrannu o gwbl at y broses ddethol. Yn unol â’r adroddiad gwreiddiol yn adroddiad Nolan, fodd bynnag, mae’n rhaid cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir – nid yw’r un o’r rhai a benodwyd wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Mae Richard Owen Watkin wedi gweithio’n helaeth ym maes llywodraeth leol yng Nghymru. Ef oedd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion o 1995 nes iddo ymddeol yn 2007. Gwasanaethodd fel aelod dros dro o’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru o Awst 2011 hyd 30 Ebrill 2012.
Cyn iddo ymddeol o Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2011 bu David Powell yn gweithio’n helaeth mewn meysydd polisi sy’n gysylltiedig â llywodraeth leol. Yn benodol, mae gan Mr Powell 15 mlynedd o brofiad o weithio ar faterion yn ymwneud â chyllid a pholisi llywodraeth leol, yn rhinwedd ei swydd yn y llywodraeth ganolog.
Mae Ceri Stradling wedi gweithio’n helaeth ym maes archwilio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae ganddo brofiad o archwilio amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys awdurdodau lleol. Ymddeolodd o Swyddfa Archwilio Cymru yn 2010 a daeth yn aelod o Gyngor Cynulleidfa Cymru’r BBC ym mis Ebrill 2011.











