Mae Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) yn ceisio symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau Llywodraeth Leol
Mae’r darpariaethau a gynhwysir yn y Bil yn deillio o’r ymrwymiadau a wnaed yn “Rhannu Cyfrifoldeb” – datganiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd yn 2007 ar lywodraeth leol
Mae’r Bill yn dileu’r gofyniad i’r mwyafrif o is-ddeddfau gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, ond disgwylir i’r awdurdodau ymgynghori yn lleol ar ddewisiadau ar gyfer mynd i’r afael â materion cyn penderfynu gwneud is-ddeddf.
Cedwir cadarnhad ar gyfer rhai is-ddeddfau a allai fod yn gynhennus, megis y rhai sy’n ymwneud â safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu barciau cenedlaethol.
Mae cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig fel ffurf amgen o orfodi yn hytrach na dwyn achos yn y Llysoedd Ynadon hefyd yn un o agweddau allweddol y Bil.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant:
"Mae Lywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yn llai biwrocrataidd fel y gellir cyfeirio ymdrech ac adnoddau i wella bywyd pobl Cymru o ddydd i ddydd.
"Mae is-ddeddfau, megis rheoli gweithgareddau ar draethau ac atal pobl rhag defnyddio byrddau sgrialu yn ymyl llwybrau troed a phriffyrdd, yn cynnig dull delfrydol a phriodol o orfodi i fynd i’r afael â’r amrywiaeth o faterion lleol a wynebir gan yr awdurdodau lleol a’r cymunedau y maent yn gyfrifol amdanynt.
"Trwy rymuso’r awdurdodau lleol i ysgwyddo cyfrifoldeb llawn dros eu cyfreithiau lleol a rhoi’r dewis iddynt wneud gorfodi’n fwy effeithiol, byddwn yn eu helpu i wella ansawdd eu gwasanaethau i’w cymunedau."
Dywedodd y Gweinidog y byddai’r cynigion ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig yn y Bil yn cynnig ffordd effeithlon ac effeithiol i’r awdurdodau lleol o orfodi is-ddeddfau.
"Mae hysbysiadau cosb benodedig yn goresgyn y fiwrocratiaeth a’r gost sy’n gysylltiedig â gorfodi trwy’r Llysoedd, sy’n gallu atal yr awdurdodau rhag cymryd camau yn erbyn troseddwyr," meddai.
Ychwanegodd y Gweinidog fod y weithdrefn newydd a gyflwynir gan y Bil yn symleiddio’r broses ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau.
"Dull wedi’i dargedu yw hwn sy’n dileu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen lle nad oes ei hangen, ond sydd hefyd yn darparu dull diogelu lle bo ei angen," meddai.











