Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi Adolygiad o Drefniadau Cyflenwi Gwasanaethau Awdurdodau Lleol

Mae’r adolygiad y comisiynodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant fis Medi diwethaf o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Dydd Iau 31 Mawrth 2011

Comisiynodd y Gweinidog Joe Simpson o Ganolfan Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol i gynnal yr adolygid ar ôl astudiaeth gan Gymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol a’i drafodaethau ef ei hun gyda gweithwyr rheng flaen a darparwyr gwasanaethau.

Neges glir y staff a darparwyr y gwasanaethau yw bod y trefniadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau awdurdodau lleol yn aml yn rhy gymhleth.  Dywedon nhw hefyd bod ailadrodd yr un swyddogaethau a gwasanaethau 22 o weithiau yn golygu dyblygu diangen, a hynny heb fawr o ddiben.

Meddai’r Gweinidog,

“Mae’n amlwg nad yw dinasyddion yn cael y gwasanaeth gorau y gallwn ei gynnig am y gost isaf.  Yng nghyd-destun ein hymdrechion i wella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, rhaid inni edrych ar ffyrdd newydd o drefnu gwasanaethau awdurdodau lleol a gweithio gyda’n gilydd.”

Yn ogystal â’r adolygiad o drefniadau cyflenwi gwasanaethau awdurdodau lleol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi adroddiadau ar ddwy swyddogaethau fwyaf awdurdodau lleol Cymru – addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol.  Mae Comisiwn Annibynnol wedi ystyried dyfodol gwasanaethau cymdeithasol ac mae tasglu annibynnol a sefydlwyd i edrych ar y strwythurau addysg yn cyhoeddi ei adroddiad heddiw.

Ychwanegodd Carl Sargeant,

“Rhaid imi ddweud eto nad testun Adolygiad Simpson yw ad-drefnu llywodraeth leol nac uno awdurdodau lleol.  Ei fwriad yw gwella patrymau darparu gwasanaethau er mwyn inni allu targedu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu at y dinesydd a gwneud hynny ar y lefel briodol – boed hynny ar y lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol.  

“Mae’r adroddiad hwn yn ddiddorol iawn a bydd yn gyfraniad gwerthfawr at y drafodaeth ar gydweithio ac ailffurfio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.  Er y bydd y llywodraeth yn ystyried goblygiadau’r 21 argymhelliad yn yr adroddiad maes o law, dw i’n siwr y gwnaiff lywio’r camau nesaf i gryfhau’r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.

“Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyflenwi gwasanaethau sy’n addas i’r oes rydyn ni’n byw ynddi.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Awdurdodau Unedol

Tagiau

Llywodraeth leol 31 Mawrth 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i