Mae’r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) wedi’i gyflwyno gan Carl Sargeant, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol yng Nghymru. Elfen allweddol o’r Mesur arfaethedig yw annog mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol i fywyd cyhoeddus.
O dan y Mesur bydd yn bosibl i gynghorau ddileu rhwystrau a allai yn y gorffennol fod wedi ei gwneud yn anodd i bobl sefyll fel cynghorwyr. Mae Carl Sargeant yn gobeithio y bydd cynigion megis absenoldeb rhiant a mynychu cyfarfodydd o bell yn annog amrywiaeth ehangach o bobl i ddod yn gynghorwyr lleol.
Meddai Carl Sargeant
“Mae angen i gynghorau lleol, a’r cynghorwyr sy’n eistedd arnynt, fod yn gynrychioladol o’r gymuned gyfan. Fodd bynnag, gall y system bresennol ei gwneud yn anodd i bobl sydd, er enghraifft, â gofynion teuluol neu sydd â chyflwr corfforol sy’n ei gwneud yn anodd iddynt fynd allan i fynychu cyfarfodydd. Bydd y Mesur hwn yn dod â llywodraeth leol i’r 21ain ganrif, a bydd yn rhoi cyfleoedd newydd i unrhyw un sy’n credu y gallant wneud gwahaniaeth i’w cymuned leol.”
Mae mwy o fenywod eisoes yn cael eu hannog i ystyried swyddogaethau mewn bywyd cyhoeddus trwy brosiectau megis ‘Merched yn Gwneud Gwahaniaeth’. Mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad, yn cynnal cyrsiau i helpu menywod fagu’r hyder i chwarae rhan weithgar yn eu cymunedau a’u bywyd cyhoeddus. Mae dau gant o fenywod ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yma, a nifer ohonynt wedi derbyn swyddi cyhoeddus o fewn eu cymuned, o fod yn llywodraethwyr ysgol ac ymddiriedolwyr i gynghorwyr ac ynadon.
Dywedodd Paula Manley, Prif Cydlynydd y prosiect:
"Mae esiamplau o lwyddiant y prosiect yn cynnwys menyw o Gogledd Cymru gyda hanes iselder a bu'n ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar, menyw â nam ar eu golwg a bu'n ymgeisydd mewn is-etholiad ym mis Chwefror eleni ar gyfer Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â nifer fawr o fenywod sydd wedi defnyddio eu sgiliau a phrofiad a wnaethant nhw ennill trwy'r rhaglen i gymryd safleoedd arweinyddiaeth yn eu cymunedau.
"Mae'r menywod yma yn cymryd cyfrifoldeb dros eu hunain, yn hytrach na disgwyl i bobol eraill gwneud pethau iddyn nhw, ac yn gwneud ymrwymiad i wella cymunedau eu hunain."
Bydd y Mesur hefyd yn cryfhau rôl cynghorau tref a chymuned, sicrhau rhagor o gydweithio rhwng cynghorwyr a chyrff eraill, ac mae’n cynnwys darpariaethau i ddiwygio’r system lwfansau i gynghorwyr.











